Menywod yn cael llai o fabis yng Nghymru nag erioed
Mae menywod yn cael llai o fabis yng Nghymru nag erioed o'r blaen yn ôl ystadegau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Mae'r ffigyrau newydd a gyhoeddwyd ddydd mercher yn dangos bod disgwyl i bob menyw yng Nghymru yn 2024 gael 1.35 babi ar gyfartaledd yn ystod eu bywydau.
Er mwyn i boblogaeth gwlad aros yn sefydlog dros amser – heb ystyried effaith mewnfudo – mae angen i gyfanswm y gyfradd ffrwythlondeb fod tua 2.1.
Dywedodd pennaeth monitro iechyd y boblogaeth yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol Greg Ceely: “Mae cyfraddau ffrwythlondeb yng Nghymru a Lloegr wedi bod yn gostwng yn gyffredinol ers 2010.
“Cynyddodd cyfanswm y genedigaethau y llynedd, am y tro cyntaf ers 2021, ond cafodd hyn ei wrthbwyso gan dwf y boblogaeth.
“O ganlyniad, gostyngodd cyfraddau ffrwythlondeb yn gyffredinol, ac maent bellach ar y cyfraddau isaf a gofnodwyd.”
Y ffigyrau
Mae'r ffigyrau a gafodd eu cyhoeddi ddydd Mercher yn dangos bod cyfradd ffrwythlondeb ar draws Cymru a Lloegr wedi gostwng am y drydedd flwyddyn yn olynol i gyrraedd y lefel isaf erioed dros y ddwy wlad.
Roedd cyfanswm y gyfradd ffrwythlondeb, sef nifer cyfartalog y plant y byddai menywod yn disgwyl eu cael yn ystod eu hoes geni plant, wedi syrthio i 1.41 yn 2024.
Mae hyn i lawr o 1.42 yn 2023 ac mae'n isaf ers i ddata ddechrau cael eu casglu ym 1938, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).
Mae’r ffigyrau yng Nghymru yn unig yn is na hynny eto.
Fe wnaeth cyfradd Cymru ostwng o 1.38 yn 2023 i 1.35 yn 2024.
Casnewydd oedd â’r gyfradd leol uchaf yng Nghymru (1.64) tra bod Caerdydd â’r isaf (1.19).
Daw'r gostyngiad yn y gyfradd er gwaetha'r ffaith bod nifer y genedigaethau yng Nghymru a Lloegr gynyddu ychydig y llynedd o 591,072 i 594,677.
Ond cafodd hyn ei wrthbwyso gan naid ym maint y boblogaeth gyffredinol, sy'n golygu bod cyfraddau ffrwythlondeb wedi gostwng yn gyffredinol.