Geraint Thomas yn dylunio crys seiclo a gyfer ei ras olaf

Llun: Ineos Grenadiers
Geraint Thomas

Mae Geraint Thomas wedi dylunio crys seiclo ar gyfer ras olaf ei yrfa - gyda'r ddraig goch yn rhan amlwg o'r dyluniad.

Fe ddechreuodd Thomas, sy’n 39 oed, ei ras gyntaf yn 2007 ac fe fydd yn gorffen ei yrfa yn ei wlad enedigol fis nesaf.

Bydd yn cystadlu yn Nhaith Prydain, gyda'r cymal olaf yn cychwyn o Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas yng Nghasnewydd, cyn i'r beicwyr deithio tuag at Felodrom Maindy - cartref Clwb Beicio Maindy Flyers, cyn-glwb Thomas, cyn gorffen yng nghanol dinas Caerdydd.

Mae'r Ineos Grenadiers, y tîm mae Thomas yn rhan ohono, wedi rhoi'r cyfle iddo ddylunio ei grys ef a gweddill y tîm ar gyfer y daith.

Ar flaen y crys mae'r ddraig goch ac enwau pobl sydd wedi bod yn gefn i Geraint yn ystod ei yrfa.

“Roeddwn i eisiau enwau pawb sydd wedi bod gyda fi ar hyd y daith,” meddai.

“Ac wedyn cael y ddraig hefyd, sydd yn amlwg.

“Mae Macs [mab Geraint Thomas] wedi creu llun i fynd ar y cefn. Mae’n eithaf cŵl, mae fi a fe [ar bodiwm Tour de France]."

Image
Mae llun gan fab Geraint Thomas, Macs wedi ei gynnwys ar gefn y crys
Mae llun gan fab Geraint Thomas, Macs wedi ei gynnwys ar gefn y crys. Llun: Ineos Grenadiers

Ar gefn y crys mae stribyn hir gyda phob blwyddyn mae’r Cymro wedi cystadlu mewn cystadlaethau seiclo.

Mae rhai o’r rhifau yn lliw aur, sydd yn cynrychioli’r blynyddoedd enillodd gystadlaethau yn y Gemau Olympaidd, Tour de France a medal aur yng Ngemau’r Gymanwlad.

“Dyma’r crys sydd yn golygu’r mwyaf i mi, mae hynny’n sicr," meddai.

“Dwi’n meddwl y bydd hi’n emosiynol pan ddaw cymal olaf y ras.

“I orffen yng Nghaerdydd yn gwisgo hwn, mae gen i ddyddiadau’r ras gyntaf yn 2007 a’r cymal olaf ar y coler.

“Dwi’n edrych ymlaen, yn sicr fe fydd yn rhywbeth dwi mynd i werthfawrogi a mwynhau’r cymal.”

Cymro mwyaf llwyddiannus y byd seico

Mae Geraint Thomas wedi sefyll ar bob gris y podiwm ar ddiwedd amrywiol gymalau, gyda'r fuddugoliaeth fwyaf cofiadwy yn 2018 pan gafodd ei goroni'n bencampwr y Tour De France.  

Pan ddychwelodd i Gymru wedi'r fuddugoliaeth honno, ymgasglodd miloedd ar hyd strydoedd y brifddinas i ddathlu ei lwyddiant, ac roedd 3,000 ychwanegol yn bresennol ym Mae Caerdydd wrth i'r Prif Weinidog ar y pryd, Carwyn Jones, ei longyfarch.

Wedi sawl cystadleuaeth a theitl yn ystod ei yrfa, fe gyhoeddodd Thomas ym mis Chwefror eleni y bydd yn ymddeol o fyd seiclo ar ddiwedd y tymor.

Fe yw'r Cymro mwyaf llwyddiannus yn y gamp gan ennill dwy fedal aur Olympaidd a thri theitl Pencampwriaeth y Byd i ychwanegu at deitl Tour de France yn 2018.

Beth bynnag a ddaw yn ei ras olaf, does dim amheuaeth fod Geraint Thomas yn un o’r sêr disgleiriaf yn hanes chwaraeon Cymru.

Ac mae e eisioes wedi cyhoeddi ei fod yn ysu i ddysgu Cymraeg yn syth ar ôl ymddeol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.