Canslo streiciau casglwyr sbwriel yn Wrecsam wedi trafodaethau
Mae streiciau oedd wedi eu trefnu gan gasglwyr sbwriel yn Wrecsam wedi eu canslo ar ôl i anghydfod dros shifftiau gael ei ddatrys.
Roedd aelodau undeb Unite i fod i fynd ar streic ddydd Sadwrn a phob dydd Sadwrn tan ganol mis Tachwedd.
Dywedodd yr undeb fod y streiciau wedi cael eu canslo yn dilyn trafodaethau llwyddiannus gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Roedd mwy na 100 o aelodau Unite - oedd yn cynnwys gweithwyr sbwriel yn ogystal â'r rhai sy'n gweithio mewn parciau, gerddi a phriffyrdd - i fod i gymryd rhan yn y gweithredu diwydiannol dros newidiadau i batrymau gwaith.
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Unite, Sharon Graham: “Byddai'r streic hon wedi creu aflonyddwch sylweddol ond diolch i waith caled cynrychiolwyr Unite yn y trafodaethau, mae hyn wedi cael ei ganslo ac mae ein haelodau wedi cadw'r amodau yr oeddent wedi arfer â nhw o'r blaen.”