Dau o blant wedi marw yn dilyn saethu mewn ysgol yn Minneapolis
Mae dau o blant wedi cael eu lladd ac mae 17 o bobl eraill wedi’u hanafu yn dilyn saethu mewn ysgol yn Minneapolis, yn ôl yr heddlu.
Dywedodd Prif Swyddog Heddlu Minneapolis, Brian O'Hara, fod swyddogion wedi eu galw i Ysgol Gatholig y Cyfarchiad yn dilyn adroddiad o saethu yno.
Roedd dyn gyda gwn wedi dechrau saethu drwy ffenestri'r eglwys tuag at blant oedd yng nghanol gwasanaeth yr offeren fore Mercher, meddai.
"Fe darodd blant ac addolwyr y tu mewn i'r adeilad," meddai.
"Roedd y saethwr wedi'i arfogi â reiffl, gwn saethu a phistol.
"Roedd hon yn weithred dreisgar fwriadol."
Mae'r person sy'n cael ei amau o fod yn gyfrifol am y saethu wedi cael ei adnabod fel Robin Westman o Minneapolis, meddai uwch swyddogion gorfodi'r gyfraith wrth wasanaeth newyddion NBC News yn yr Unol Daleithiau.
Dywedodd Mr O'Hara yn gynharach fod yr heddlu’n credu bod y dyn yn ei "ugeiniau cynnar" ac wedi gweithredu ar ei ben ei hun.
Ychwanegodd ei fod wedi marw a bod yr heddlu’n ceisio dod o hyd i gymhelliad am y saethu.
Cafodd dau o blant, wyth a 10 oed, eu lladd yn dilyn y saethu ac mae 17 o bobl eraill wedi'u hanafu.
Mae 14 o'r rhai gafodd eu hanafu'n blant, gyda dau ohonyn nhw mewn cyflwr difrifol.
Llun: Reuters