Dŵr Cymru: Prif Weithredwr newydd wrth i'r llywodraeth alw arnyn nhw i 'ddysgu gwersi'
Mae cwmni Dŵr Cymru wedi cyhoeddi prif weithredwr newydd ar y cwmni ar yr un diwrnod ac y mae Llywodraeth Cymru wedi galw arnyn nhw i "ddysgu llawer o wersi" o'r ail doriad cyflenwad dŵr hirfaith yn y gogledd eleni.
Mae Roch Cheroux wedi gweithio ar draws Ewrop ac Asia yn ystod ei yrfa ac mae'n ymuno o gwmni dŵr Sydney Water yn Awstralia.
Fe fydd yn ymuno â Dŵr Cymru ar 6 Hydref cyn dechrau'r swydd yn swyddogol yn y flwyddyn newydd.
Bydd Peter Perry, sydd wedi gwasanaethu fel Prif Weithredwr Dŵr Cymru ers 2020 yn ymddeol yng ngwanwyn 2026.
Daw ei benodiad llai na phythefnos ers i filoedd o bobl mewn trefi a phentrefi yn y gogledd ddwyrain bod heb ddŵr am sawl diwrnod.
Roedd tai yn Y Fflint, Ffynnongroyw, Maes Glas, Llannerch y Môr, Mostyn, Oakenholt, Talacre, Chwitffordd, Queensferry, Shotton, Cei Connah, Penarlâg, Mancot a Sandycroft wedi cael eu heffeithio.
Dywedodd Huw Irranca-Davies, y Dirprwy Brif Weinidog ddydd Mercher bod rhaid "dysgu gwersi" o'r digwyddiad.
"Mae colli cyflenwad dŵr am unrhyw gyfnod estynedig yn destun helbul a gofid i bob preswylydd, yn enwedig i'r rhai sy'n agored i niwed neu sy'n derbyn cymorth iechyd neu ofal," meddai.
"Dyma'r ail ddigwyddiad mawr i effeithio ar y cyflenwad dŵr yn y gogledd eleni. Fel gyda'r digwyddiad yng Nghonwy ym mis Ionawr, gall digwyddiadau o'r math hwn ddysgu llawer o wersi i ni.
"Cefais gyfarfod â Dŵr Cymru ar 19 Awst, ac roedd yn dda cael cadarnhad eu bod wedi defnyddio gwersi o'r digwyddiad yng Nghonwy wrth ymateb i'r digwyddiad hwn.
"Bydd Dŵr Cymru yn astudio'r digwyddiad hwn hefyd, gan nodi beth oedd yn gweithio'n dda ac unrhyw feysydd y mae angen eu gwella. Rwy'n falch ei fod yn parhau i ddysgu o'r digwyddiadau hyn i wella'r ymateb i unrhyw ddigwyddiadau yn y dyfodol."
'Cyfnod allweddol'
Ym mis Mehefin roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi galw ar Dŵr Cymru i wella ar ôl “dirywiad enfawr” yn eu perfformiad.
Dywedodd y corff sy’n gwarchod amgylchedd Cymru bod yr achosion lle mae Dŵr Cymru wedi gollwng carthffosaeth wedi cyrraedd eu huchaf ers 10 mlynedd.
Mae Roch Cheroux, sydd wedi gweithio fel Prif Weithredwr Sydney Water, cyfleustod dŵr mwyaf Awstralia, rhwng 2019 a Mawrth 2025, yn dweud bod y cyfnod presennol yn un "allweddol" i Dŵr Cymru.
“Mae hi wir yn anrhydedd cael ymuno â Dŵr Cymru – cwmni â phwrpas cyhoeddus clir a model nid-er-elw unigryw sy’n rhoi cwsmeriaid a chymunedau’n gyntaf," meddai.
“Mae hi’n gyfnod allweddol i’r cwmni ac i’r sector. Mae’r diwygiadau helaeth y mae’r Comisiwn Dŵr Annibynnol yn eu cynnig, ynghyd â rhaglen buddsoddi uchelgeisiol Dŵr Cymru ar gyfer y pum mlynedd nesaf, yn golygu ei bod hi’n amser cyffrous i ymuno â’r cwmni.
"Rwy’n edrych ymlaen at gael gweithio gyda’r tîm, Llywodraethau, rheoleiddwyr a’n cwsmeriaid i gyflawni’r deilliannau gorau posibl ar gyfer ein cwsmeriaid, cymunedau a’r amgylchedd.”