Costau ynni: Ofgem yn cyhoeddi cynnydd o 2% mewn prisiau nwy a thrydan

Nwy

Mae rheoleiddiwyr y diwydiant ynni Ofgem wedi cyhoeddi cynnydd mewn prisau nwy a thrydan o 2% o fis Hydref.

Bydd bil nwy a thrydan nodweddiadol yn codi 2% i filiynau o aelwydydd o dan y cap pris diweddaraf a gyhoeddwyd fore dydd Mercher.

Bydd y cynnydd, sydd ychydig yn fwy na'r disgwyl, yn codi ar ddechrau mis Hydref, a dywed ymgyrchwyr y bydd hyn yn golygu gaeaf arall o filiau ynni cymharol uchel.

Mae cap Ofgem yn gosod y pris uchaf y gellir ei godi am bob uned o nwy a thrydan i tua 21 miliwn o gartrefi yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.

Mae'n golygu y bydd cartref sy'n defnyddio swm nodweddiadol o nwy a thrydan yn talu £1,755 y flwyddyn, sef cynnydd o £35 y flwyddyn ar y cap presennol.

Roedd dadansoddwyr yn y maes yn darogan y bydd biliau ynni yn codi tua 1%.

Gall aelwydydd unigol amcangyfrif eu newid penodol drwy ychwanegu £2 at bob £100 maen nhw'n ei wario ar ynni ar hyn o bryd bob blwyddyn.

Daw'r newid i rym ddechrau mis Hydref ac mae'n para am dri mis.

Bydd unrhyw un sy'n cael budd-daliadau prawf modd yn derbyn y Gostyngiad Cartref Cynnes o £150 yn awtomatig ar eu biliau. 

Nid oedd rhai yn gymwys o'r blaen oherwydd maint eu heiddo, ond bydd yr amod hwnnw'n cael ei ddileu.

Bydd pob talwr biliau yn cyfrannu i ariannu'r gefnogaeth ychwanegol yma, sydd ar ben tro pedol y llywodraeth ar daliadau tanwydd gaeaf.

Dywedodd cyfarwyddwr cyffredinol marchnadoedd yn Ofgem, Tim Jarvis: “Er bod mwy i’w wneud o hyd, rydym yn gweld arwyddion o farchnad iachach.

“Mae mwy o bobl ar dariffau sefydlog yn arbed arian iddyn nhw eu hunain, mae newid yn cynyddu wrth i opsiynau i ddefnyddwyr gynyddu, ac rydym wedi gweld cynnydd mewn boddhad cwsmeriaid, ochr yn ochr â gostyngiad mewn cwynion.

“Er bod newid heddiw yn is na chwyddiant, rydym yn gwybod efallai nad yw cwsmeriaid yn ei deimlo yn eu pocedi. 

"Mae yna bethau y gallwch eu gwneud serch hynny - ystyriwch dariff sefydlog gan y gallai hyn arbed mwy na £200 yn erbyn y cap newydd.

“Gallai talu trwy ddebyd uniongyrchol neu dalu-wrth-fynd clyfar hefyd arbed arian i chi.

“Yn y tymor hwy, byddwn yn parhau i weld amrywiadau yn ein prisiau ynni nes ein bod wedi ein hinswleiddio rhag marchnadoedd nwy rhyngwladol anwadal. 

"Dyna pam rydym yn parhau i weithio gyda’r llywodraeth a’r sector i arallgyfeirio ein cymysgedd ynni i leihau’r ddibyniaeth ar farchnadoedd nad ydym yn eu rheoli.”

Dywedodd dadansoddwyr Cornwall Insight fod prisiau cyfanwerthu trydan a nwy wedi bod yn “anwadal”, gan adlewyrchu’n bennaf ffactorau geo-wleidyddol gan gynnwys ansicrwydd ynghylch polisi masnach yr Unol Daleithiau.

Dywedodd Cornwall bod disgwyl gostyngiad bach yn y cap pris ym mis Ionawr, ond roedd hyn yn dibynnu ar symudiadau geo-wleidyddol, patrymau tywydd, newidiadau i gostau polisi a'r posibilrwydd o gyflwyno costau fel y rhai i gefnogi buddsoddiad mewn capasiti cynhyrchu niwclear newydd.

Ynni glân

Mae Ofgem yn newid y cap pris ar gyfer aelwydydd bob tri mis, yn seiliedig yn bennaf ar gost ynni ar farchnadoedd cyfanwerthu.

Cyflwynwyd y cap pris ynni gan y Llywodraeth ym mis Ionawr 2019 ac mae’n gosod y pris uchaf y gall cyflenwyr ynni ei godi ar ddefnyddwyr yng Nghymru, Lloegr a’r Alban am bob cilowat awr (kWh) o ynni y maent yn ei ddefnyddio.

Nid yw’n cyfyngu ar gyfanswm y biliau, oherwydd bod perchnogion tai yn dal i dalu am faint o ynni y maent yn ei ddefnyddio.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net: “Yr unig ffordd i ostwng biliau ynni am byth yw gyda chenhadaeth uwch-bŵer ynni glân y Llywodraeth, a fydd yn cael y DU oddi ar rolercoster prisiau tanwydd ffosil ac ymlaen i bŵer glân, cartref yr ydym yn ei reoli.”

“Rydym yn cymryd camau brys i gefnogi teuluoedd y gaeaf hwn – yn ogystal ag ehangu’r Gostyngiad Cartref Cynnes o £150 i 2.7 miliwn yn rhagor o aelwydydd, rydym yn cryfhau amddiffyniadau cwsmeriaid, gan gynnwys drwy roi mynediad cyflymach a haws i bobl at iawndal awtomatig pan fydd eu cyflenwyr yn eu siomi.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.