Apêl ar ôl i yrrwr ddioddef anafiadau difrifol wedi gwrthdrawiad ger Deiniolen
Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth ar ôl i yrrwr ddioddef anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad ger Deiniolen, Gwynedd ddydd Gwener.
Cafodd Heddlu’r Gogledd wybod am wrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar ffordd yr A4244 rhwng llety Groeslon Tŷ Mawr a Garej Beran toc cyn 16.00 y prynhawn.
Fe gafodd dyn oedd yn gyrru Chevrolet Matiz a menyw oedd yn teithio yn y car gydag ef, yn ogystal â dyn oedd yn gyrru Ford Transit eu cludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.
Mae gyrrwr y Chevrolet wedi dioddef anafiadau difrifol ac mae bellach wedi cael ei symud i ysbyty yn Stoke.
Fe wnaeth gyrrwr y Ford Transit a’r fenyw oedd yn teithio yn y Chevrolet ddioddef man anafiadau. Mae’r fenyw bellach wedi cael ei rhyddhau o’r ysbyty.
Dywedodd Daniel Owen o Uned Plismona’r Ffyrdd Heddlu’r Gogledd bod y llu yn apelio am wybodaeth er mwyn ceisio deall sut ddigwyddodd y gwrthdrawiad.
“Mae ymchwiliad i sefydlu achos y gwrthdrawiad yn cael ei gynnal. Rwy'n apelio ar unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu a allai fod wedi bod yn teithio yn yr ardal pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad ac sydd â delweddau dashcam i gysylltu ar unwaith.”
Mae’r heddlu yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth all fod o gymorth i gysylltu drwy ddyfynnu’r cyfeirnod 25000528948.