£7,000 wedi ei godi i DJ o Sir Benfro sydd mewn coma yn Zante
Mae dros £7,000 wedi ei godi ar gyfer DJ o Sir Benfro sydd mewn coma yn Zante.
Fe wnaeth Kai Roberts ddioddef anafiadau difrifol i'w ben ddydd Sul ar ôl bod mewn gwrthdrawiad ar feic cwad.
Fe gafodd ffitiau (‘seizure’) oedd yn golygu bod rhaid i'r meddygon ei rhoi mewn coma yn yr ysbyty yng Ngwlad Groeg.
Roedd y Cymro wedi bod yn treulio’r mis yn Zante yn gweithio fel DJ ac roedd disgwyl iddo ddychwelyd adref ar 1 Gorffennaf.
Yn ôl The Daily Mirror, roedd Kai wedi bod yn teithio ar feic cwad gyda’i ffrind cyn iddo daro wal. Roedd yn rhaid i feddygon ei roi mewn coma fel bod modd ei gludo i'r tir mawr ar gyfer triniaeth bellach.
Doedd ei ffrind ddim wedi dioddef anafiadau difrifol, meddai'r Daily Mirror.
Mae tudalen codi arian bellach wedi ei sefydlu gan ei gariad, Kya Gillane-Heywood oedd ar yr ynys gydag ef ar y pryd. Y bwriad yw cefnogi teulu Kai gyda chostau teithio, llety a biliau meddygol.
Mae ei deulu wedi teithio i Wlad Groeg er mwyn bod gydag ef yn ystod y cyfnod hwn.
Mae dros £7,000 wedi ei godi hyd yma.
Y gobaith yw y bydd yr arian hefyd yn cael ei ddefnyddio er mwyn helpu Kai i wella medd y dudalen Gofundme.
“Mae pawb yn gefn i Kai a’i deulu,” medd Kya Gillane-Heywood ar y dudalen.
“Rydym i gyd yn gweddïo y bydd yn gwella yn llawn a chyflym.”