Dyn ‘wedi ei anafu’n ddifrifol’ wrth ail-greu brwydr ganoloesol
Fe gafodd dyn 37 oed ei anafu yn ddifrifol o flaen torf o wylwyr wrth ail-greu brwydr ganoloesol mewn castell yn Lloegr.
Mae’r dyn o Horsham yn yr ysbyty yn Brighton ar ôl i gleddyf fynd drwy ei diswrn (visor) ac anafu ei ben a’i lygad toc cyn 15:00 ddydd Sul yng nghastell Bodiam yn Nwyrain Sussex.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw’n trin y digwyddiad fel damwain ac yn gofyn i unrhyw lygaid-dystion gan gynnwys rhai â delweddau fideo i gysylltu.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Barry Chandler: “Rydym yn trin y digwyddiad fel damwain ac yn cynnig cefnogaeth i’w deulu.
“Mae ei wrthwynebydd, dyn 36 oed sydd hefyd o Horsham, a’r trefnwyr yn ein helpu gyda’n hymholiadau.
“Rydym yn gwybod bod y digwyddiad wedi denu torf fawr ac yn deall y byddai wedi peri gofid i unrhyw un a’i gwelodd.”
Dywedodd llefarydd ar ran yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol eu bod nhw’n cyd-weithio â’r heddlu ac yn cydymdeimlo â’r dyn a’i deulu.