Newyddion S4C

Owen Paterson yn ymddiswyddo yn dilyn ffrae am ymchwiliad disgyblu'r A.S.

The Guardian 04/11/2021
Owen Paterson

Mae'r Aelod Seneddol Ceidwadol Owen Paterson wedi ymddiswyddo yn dilyn ffrae am ymchwiliad disgyblu'r A.S.

Daeth ymchwiliad cynharach i'r casgliad fod Mr Paterson wedi torri rheolau lobïo "droeon".

Roedd yn wynebu gwaharddiad o 30 diwrnod o Dy'r Cyffredin ar ôl i Boris Johnson wneud tro pedol ddydd Iau, gan benderfynu peidio bwrw ymlaen i archwilio’r system safonau i ymddygiad Aelodau Seneddol, ddiwrnod ar ôl cyhoeddi’r cynllun.

Daeth hynny ar ôl i Aelodau Seneddol yn San Steffan bleidleisio yn erbyn gwahardd y cyn-weinidog Ceidwadol Owen Paterson o Dŷ'r Cyffredin.

Yn ôl The Guardian, dywedodd Mr Paterson wrth ymddiswyddo: "Byddaf yn parhau fel gwas cyhoeddus ond tu allan i fyd creulon gwleidyddiaeth."

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.