Apêl am gymorth wedi i Gymraes ddioddef anaf difrifol ar ei gwyliau
Mae apêl am gymorth ariannol wedi ei lansio ar ôl i Gymraes ddioddef anaf difrifol i'w chefn tra ar wyliau ar Ynys Rhodos (Rhodes) yng Ngwlad Groeg.
Fe wnaeth Holly Seaford, 20 oed, dorri pedwar asgwrn yn ei chefn ar ôl disgyn o falconi yn oriau cynnar fore dydd Mercher diwethaf.
Mae ei chariad wedi apelio am gymorth i'w hedfan yn ôl adref, gan ddweud nad yw'r gofal meddygol pwrpasol ar gael iddi ar yr ynys.
Dywedodd Tate Crees mewn datganiad oedd yn apelio am gymorth ar wefan gofundme: "Ar 9 Gorffennaf, dioddefodd Holly ddamwain ddifrifol iawn tra ar ei gwyliau haf yn Rhodes, Gwlad Groeg, gyda mi.
"Yn drasig, syrthiodd a thorri pedwar fertebra yn ei chefn. Mae hi bellach yn gorwedd mewn gwely ysbyty...yn methu symud na cherdded.
"Mae meddygon wedi dweud wrthym y bydd yn o leiaf 6-8 wythnos cyn y gall hyd yn oed ddechrau symud eto. Mae hon yn mynd i fod yn broses hir ac anodd iawn i Holly, yn gorfforol ac yn emosiynol.
"Er bod y gofal meddygol yng Ngwlad Groeg yn dda, yn anffodus nid oes gan yr ysbyty unrhyw gefnogaeth nyrsio ar gael. Mae hyn yn golygu bod Holly heb gymorth hyd yn oed ar gyfer yr anghenion dyddiol mwyaf sylfaenol, sy'n cael effaith ddifrifol ar ei lles."
Ychwanegodd: "Rydym yn awyddus iawn i'w chludo adref i'r DU, lle gall dderbyn y gofal nyrsio proffesiynol a'r adsefydlu sydd eu hangen arni ar frys.
"Ond, mae hediadau meddygol yn anhygoel o ddrud - yn enwedig gan mai'r unig ffordd y gall Holly hedfan adref yw ar stretsier.
"Mae angen hediad meddygol arbenigol gyda staff i'w monitro drwy gydol y daith. Yn anffodus, nid yw hyn wedi'i gynnwys gan yswiriant."
Dywedodd ei fod yn apelio am unrhyw gymorth i helpu i godi'r arian sydd ei angen i ddod â Holly adref yn ddiogel.
"Bydd pob rhodd - ta waeth pa mor fach - yn mynd yn uniongyrchol tuag at ei chludiant meddygol a'i hadferiad", ychwanegodd.