Pedair o Sir Benfro am ‘hedfan fflag y Gymraeg’ wrth rwyfo dros yr Iwerydd

Merchod y Môr

Mae grŵp o fenywod o Sir Benfro wedi dweud eu bod nhw’n barod i “wynebu uffern” wrth "hedfan y fflag" dros yr iaith Gymraeg wrth groesi'r Iwerydd.

Os ydyn nhw’n llwyddo, y pedair - Denise Leonard, 49, Helen Heaton, 59, Heledd Williams, 44 a Liz Collyer, 39 - fydd y menywod cyntaf o Gymru i rwyfo dros yr Iwerydd.

Fe fydd eu tîm Merched y Môr nhw’n treulio tua 40 diwrnod ar y môr wrth obeithio cyrraedd y Caribî o’r Ynysoedd Dedwydd (Canary Islands) - taith o 3,000 o filltiroedd.

Fe fydd y daith yn cychwyn ar 12 Rhagfyr ac yn gorffen ddiwedd Ionawr, gan olygu y bydd y merched yn treulio diwrnod Nadolig yng nghanol yr Iwerydd hefyd.

“Y brif nod erbyn diwedd y ras ydi codi arian i elusen - ac aros yn ffrindiau!” meddai Liz Collyer.

“Rydyn ni’n mynd i wynebu uffern ar y daith ac nid pawb sydd wedi gallu dod allan y pen arall yn ffrindiau.

“Fel arall rydyn ni am wneud ein gorau a bod yn falch o’r hyn ydan ni’n ei gyflawni.

“Enw ein tîm yw Merched y Môr ac enw’r llong ydi Cariad felly rydyn ni’n gobeithio hedfan y fflag o blaid yr iaith Gymraeg.

“Fe wnes i symud i Gymru yn 2004 ond bellach wedi byw yma yn hirach nag yn Lloegr, ac mae’r iaith yn hynod o bwysig i fi.

“Rydw i’n dysgu Cymraeg oherwydd bod fy llys ferch yn siaradwr Cymraeg iaith gyntaf.

“Mae yna dipyn o hollt rhwng gogledd a de Sir Benfro o ran yr iaith felly mae’n bwysig atgoffa pawb lle ydan ni.”

Elusen

Nod y pedair yw codi £125,000 i gefnogi costau'r her ac i ariannu pedair elusen, sef Popham Kidney Support, Sea Trust Wales, Action for Children, a'r RNLI.

Mae Her yr Iwerydd yn un o'r rasys dygnwch (endurance) mwyaf heriol yn y byd.

Mae llai o bobl wedi rhwyfo ar draws yr Iwerydd nag sydd wedi dringo Mynydd Everest neu deithio i'r gofod.

Dywedodd Liz Collyer eu bod nhw bellach yn gorfod paratoi ar gyfer pob posibilrwydd, gan gynnwys un ohonyn nhw’n mynd yn sâl a’u bod nhw’n syrthio allan o’r cwch.

“Nid mynd am hwyl a sbri ydan ni,” meddai Liz Collyer. “Gobeithio nawn ni godi dipyn mwy o arian na fydden ni o stondin gacs!

“Ond rydan ni wedi elwa yn fawr yn bersonol. Rydw i wedi datblygu cyfeillgarwch dyfnach nag erioed o’r blaen.

“Rydw i wedi datblygu cymaint hefyd o ran bod yn fwy onest am beth ydw i’n ei feddwl ac yn ei deimlo.

“Doeddwn i heb rwyfo o gwbl cyn hyn a does yr un ohonon ni wedi gwneud digwyddiad dygnwch fel hyn o’r blaen. 

“Fe ddechreuodd yn ystod y Clo Mawr pan ddaethon ni at ein gilydd yn chwilio am rywbeth i’w wneud. Doedden ni ddim yn ffrindiau o flaen llaw.

“Erbyn hyn rydan ni’n gwybod ein bod ni’n gallu gweithio yn dda gyda’n gilydd dan bwysau ac yn barod am unrhyw greisis.”

A beth am ddiwrnod y Nadolig?

“Dwi’n credu fod y teulu wedi pacio ambell syrpreis ar ein cyfer ni!” meddai. 

“Fe fydd yna ambell ddeigryn dwi’n meddwl.”

Prif lun: O'r chwith i'r dde, Heledd, Denise, Helen a Liz.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.