Newyddion S4C

Tro pedol gan Lywodraeth y DU yn ymchwiliad disgyblu'r A.S. Owen Paterson

Evening Standard 04/11/2021
Owen Paterson

Mae’r Prif Weinidog Boris Johnson wedi gwneud tro pedol wrth benderfynu peidio bwrw ymlaen i archwilio’r system safonau i ymddygiad Aelodau Seneddol, ddiwrnod ar ôl cyhoeddi’r cynllun.

Daw hyn ar ôl i Aelodau Seneddol yn San Steffan bleidleisio yn erbyn gwahardd y cyn-weinidog Ceidwadol Owen Paterson o Dŷ'r Cyffredin ddydd Mercher yn sgil cyhuddiadau o dorri rheolau lobïo yn ei erbyn.

Roedd cefnogwyr Mr Paterson o fewn ei blaid wedi dadlau fod y broses ei hun o ymchwilio i unrhyw dor-rheol yn annheg, gan ddweud fod angen ei diwygio, yn hytrach na chosbi'r A.S.

Yn ôl The Evening Standard, mae’r tro pedol gan Boris Johnson ddydd Iau yn golygu y bydd Owen Paterson nawr yn wynebu gwaharddiad o Dy’r Cyffredin am 30 diwrnod.

Daeth ymchwiliad cynharach i'r casgliad fod Mr Patterson wedi torri rheolau lobïo "droeon".

Darllenwch ragor yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.