Yr heddlu'n cyhoeddi enw dyn o Wynedd a fu farw ym Malta
Mae'r heddlu ym Malta wedi cyhoeddi enw'r dyn 25 oed o Wynedd a fu farw ar ôl disgyn o falconi ar yr ynys.
Roedd Kieran Thomas Hughes yn 25 oed ac yn dod o ardal Caernarfon yn wreiddiol.
Dywedodd Heddlu Malta eu bod wedi cael eu galw am 04:15 fore dydd Gwener i ardal Triq Spinola yn nhref St Julian's.
Wedi i'r heddlu gyrraedd, daeth i'r amlwg fod Mr Hughes wedi disgyn o falconi gwesty.
Fe gafodd tîm meddygol eu galw i'r digwyddiad, ond bu farw y dyn yn y fan a'r lle.
Mewn datganiad ddydd Gwener dywedodd yr Aelod o Senedd Cymru dros Arfon, Siân Gwenllian: "Mae'r newyddion am farwolaeth dyn 25 oed o Wynedd ym Malta yn wirioneddol erchyll.
"Mae'n gwbl amhosibl dirnad poen y teulu. Rydw innau, ynghyd â gweddill pobl Gwynedd yn meddwl amdanynt yn eu galar."
Mae'r crwner ym Malta wedi cael gwybod am y farwolaeth, ac wedi penodi nifer o arbenigwyr i gynorthwyo gyda'r ymholiadau yn ôl Heddlu Malta. Roedd yr Ynad Philip Galea Farrugia yn arwain yr ymchwiliad i’r hyn ddigwyddodd.
Mae ymholiadau'r heddlu yn parhau.