Angen perfformiad 'llawn egni a hyder' gan Gymru yn erbyn Lloegr
Mae angen 'perfformiad llawn egni a hyder' gan Gymru wrth iddyn nhw wynebu Lloegr yng ngêm olaf Grŵp D yn Euro 2025 nos Sul yn ôl cyn-gapten Cymru Laura McAllister.
Er nad yw'n fathemategol amhosib i Gymru barhau yn Euro 2025 tu hwnt i nos Sul, mae hynny yn annhebygol iawn.
Fe gollodd Cymru 3-0 yn erbyn Yr Iseldiroedd yn eu gêm gyntaf, ac er y perfformiad gwell yn erbyn Ffrainc nos Fercher, colli oedd eu hanes nhw eto o 4-1 y tro hwn.
Er bod Lloegr wedi colli eu gêm gyntaf yn erbyn Ffrainc, roedd eu perfformiad yn eu hail gêm yn erbyn Yr Iseldiroedd yn llawer gwell, gan guro'r gêm honno 4-0.
Dau dîm fydd yn mynd yn eu blaenau i'r chwarteri.
Er mwyn i Gymru wneud bynny, byddai angen iddyn nhw guro Lloegr o o leiaf pedair o goliau, a gobeithio fod Ffrainc yn curo'r Iseldiroedd.
Os ydy Lloegr yn curo Cymru, fe fyddan nhw yn mynd yn eu blaen i'r wyth olaf.
Bydd Yr Iseldiroedd yn wynebu Ffrainc ddydd Sul hefyd.
Dywedodd is-lywydd UEFA a chyn-gapten Cymru Laura McAllister:" Yn sicr, perfformiad fel yr un yn erbyn Ffrainc, perfformiad llawn egni, llawn hyder hefyd.
"Dyma ni am y tro cyntaf yn cystadlu yn erbyn y timau yma, 'dyn ni ddim yn cweit gallu cyrraedd yr un safon a nhw ond ar y llaw arall, mae'n gam pwysig iawn i ni ddatblygu'r llwybr ar gyfer y chwaraewyr elitaidd yn y dyfodol."
Ychwanegodd: "Dyn ni wedi gweld gymaint o fans yma, gymaint o blant ifanc, yn arbennig merched sydd wedi cael eu hysbrydoli gan y merched ar y cae.
"I ni nawr fel Cymdeithas ac i ni fel UEFA, y peth pwysicaf yw be' 'dan ni'n gallu trefnu nawr i sicrhau bod y merched 'na yn cael lleoedd i chwarae, caeau i chwarae a caeau 3G a clybiau sy'n gallu datblygu'r gêm go iawn.
"Y cam nesaf yw'r tournament 'ma ond ma'n bwysig i ni nawr sicrhau bod ni'n gwasgu popeth allan o'r profiad 'ma."