Cyngor i gadw'n iach wrth i'r cyfnod o dywydd poeth iawn barhau
Gyda thymheredd ledled Cymru yn parhau yn uchel ddydd Sul, mae arbenigwyr iechyd yn annog pobl i gymryd camau i gadw'n iach yn y gwres llethol.
Fe welodd rhai ardaloedd o Gymru dymhereddau o dros 30C ddydd Sadwrn, gyda'r gwres yn effeithio ar drenau yn y de ac arwain at ganslo digwyddiadau chwaraeon yn Eryri.
Gall dod i gysylltiad hir â thywydd poeth achosi diffyg dŵr yn y corff, blinder gwres a strôc gwres meddai Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Gall unrhyw un fynd yn sâl pan fydd y tywydd yn boeth, ond mae rhai pobl yn arbennig o agored i niwed.
Dywedodd Dr Giri Shankar, Cyfarwyddwr Diogelu Iechyd Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae tywydd poeth yn risg benodol i blant, pobl hŷn a'r rhai sydd â chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes.
"Mae'n bwysig ein bod yn gofalu am ein teulu, ffrindiau a chymdogion tra bod y tymheredd yn aros yn uchel.
“Mae hyn yn golygu cymryd camau syml fel sicrhau eu bod yn yfed digon o ddŵr ac yn aros allan o'r haul rhwng 11:00 a 15:00."
Ychwanegodd Dr Shankar: "Mae hefyd yn well osgoi cynllunio gweithgaredd egnïol yng ngwres y dydd.
“Os ewch chi allan, gwnewch yn siŵr ei fod yn rhywle gyda digon o gysgod a'ch bod chi'n gwisgo eli haul, dillad llac a het.”
Mae disgwyl i'r tymheredd ostwng ychydig ddydd Llun, gyda thywydd ychydig yn oerach ar gyfer gweddill yr wythnos yn dilyn y cyfnod diweddaraf o wres.