Olew gwresogi: £750 i aelwydydd mwyaf bregus Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi faint y bydd yr aelwydydd mwyaf bregus yn ei dderbyn i'w helpu gyda'r cynnydd ym mhris olew gwresogi oherwydd y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol.
Ddydd Llun cyhoeddodd Syr Keir Stamer ei fod yn rhoi £3.8 miliwn i'r llywodraeth ym Mae Caerdydd.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru brynhawn Mercher y bydd yn cynyddu "ar unwaith" swm y cyllid sydd ar gael ar gyfer olew gwresogi.
Mae'r swm sydd ar gael fesul dyfarniad ar gyfer olew gwresogi yn cael ei godi dros dro o £500 i £750, tra bo'r prisiau'n uwch.
Dywedodd Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol: “Gan fod y gwrthdaro presennol yn y Dwyrain Canol yn creu ansicrwydd ar draws marchnadoedd y byd, rydym yn cydnabod bod llawer o bobl yn wynebu anawsterau o ran eu costau byw, yn enwedig aelwydydd sy'n dibynnu ar olew i wresogi eu cartrefi.”
"Rydym yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU am £3.8m i Gymru yn 2026-27 ac yn ystyried y ffordd orau i'w ddefnyddio.
"Bydd y cyhoeddiad heddiw yn darparu cymorth ychwanegol ar unwaith i'r rhai sydd â'r angen mwyaf i ddelio â'r cynnydd mewn prisiau olew."
£53 miliwn yw'r swm sydd wedi ei glustnodi ar gyfer y Deyrnas Unedig, gyda £27 miliwn ar gyfer Lloegr a £4.6m ar gyfer yr Alban.
Bydd Gogledd Iwerddon yn derbyn £17m gan fod llawer o bobl yno yn defnyddio olew gwresogi..
Yn ôl Syr Keir Starmer, mae'r arian ar gyfer “yr aelwydydd mwyaf bregus.”
Dywedodd ei fod yn pryderu ynghylch honiadau fod rhai cyflenwyr olew i'r cartref wedi canslo archebion, cyn codi tâl sylweddol uwch ar gwsmeriaid.
“Wna i ddim caniatáu i gwmniau wneud elw anferthol ar draul sefyllfa anodd bobl sy'n gweithio” meddai.
“Mae'r math hwnnw o ymddygiad yn hollol annerbyniol, felly os yw cwmniau wedi torri'r gyfraith, bydd y gyfraith yn delio â hynny,” ychwanegodd.
Dosbarthu'r arian
Yn ôl y Trysorlys, mae'r arian yn cael ei neilltuo ar sail data'r cyfrifiad, gyda'r llywodraethau datganoledig yn ei ddosbarthu yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Awdurdoau lleol fydd yn cyflawni'r gwaith hwnnw yn Lloegr.
Yr wythnos diwethaf, cododd pris olew crai i bron i $120 y gasgen, cyn gostwng. Ar hyn o bryd, oddeutu $106 y gasgen yw'r pris.
Mae hynny wedi digwydd yn bennaf am fod Culfor Hormuz ynghau yn sgil y rhyfel rhwng America ac Israel ag Iran - lleoliad hanfodol, gyda bron i 20% o holl gyflenwadau olew y byd yn arfer cael eu cludo drwy'r dyfroedd hynny.
Ar hyn o bryd mae'r cap ar brisiau ynni yn gwarchod biliau nwy a thrydan.
Yn sgil y cap hwnnw gan reoleiddwr y diwydiant ynni Ogfem, bydd y biliau hynny yn gostwng fis Ebrill.
Mewn ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd David Chadwick AS o'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig: “Nid yw cyhoeddiad y Prif Weinidog yn mynd yn ddigon pell.
"Mae angen cap ar brisiau ynni i atal codiadau dro ar ôl tro ac elw gan gyflenwyr.
“Mae teuluoedd yng nghefn gwlad Cymru yn poeni’n fawr wrth i filiau olew gwresogi fynd allan o reolaeth."
Yn ôl y Ceidwadwyr yn San Steffan, dylai'r llywodraeth “weithredu ymhellach a gostwng biliau trydan 20% i bawb” drwy ddilyn polisïau ynni'r Ceidwadwyr.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS: “Mae Plaid Cymru yn croesawu cydnabyddiaeth Llywodraeth y DU bod aelwydydd sy’n ddibynnol ar olew gwresogi yn wynebu costau sy’n cynyddu’n sydyn a’r ffaith nad ydyn nhw’n cael eu gwarchod cystal â’r rhai sydd wedi’u cysylltu â’r grid nwy.
“Fodd bynnag, rhaid i unrhyw ymyrraeth ddarparu cefnogaeth go iawn, a hynny’n gyflym – nid tic mewn blwch yn unig.”
“Er bod cefnogaeth sydd wedi’i thargedu ar gyfer yr aelwydydd tlotaf i'w groesawu, dylid ystyried darparu cymorth i bob aelwyd sy’n wynebu prisiau olew gwresogi ac LPG afresymol os yw’r Llywodraeth o ddifrif ynglyn â chydnabod yr annhegwch hwn,” meddai.
“Rydym ni wedi cyhoeddi cynllun credadwy i ddadwneud y cynnydd hwnnw, oherwydd byddwn ni wastad yn brwydro dros bobl sy'n gweithio, ac yn ceisio lleihau costau ar gyfer teuluoedd,” meddai'r llefarydd.
Mae Newyddion S4C wedi gofyn i'r Blaid Werdd hefyd am eu hymateb i'r cyhoeddiad.
