'Mae’r ffenestri yn crynu': Gohebu o Dubai yng nghanol gwrthdaro'r Dwyrain Canol

Newyddion S4C
Gwyn Loader yn Dubai

Wrth i'r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol barhau, mae gohebwyr rhaglen Newyddion S4C, Gwyn Loader a Liam Evans, yn Dubai. 

Mae strydoedd Dubai yn dawelach na’r arfer.

Yr adeiladau sgleiniog yn dal i ymestyn yn orchestol i’r awyr, y bariau trendi a’r bwytai crand yn parhau ar agor - ond y byrddau yn aml yn wag.

Er bod awdurdodau'r Emiradau Arabaidd Unedig yn mynnu bod bywyd bob dydd yn parhau yma, mae’r twristiaid, ar y cyfan, yn cadw draw.

Ac er bod cymuned fawr o Gymry yn byw yma, mae nifer o’r rhai ry’n ni wedi bod yn siarad gyda nhw dros y dyddiau diwethaf wedi gadael.

Mae ein ffonau symudol yn canu sawl gwaith bob dydd - yn rhybuddio y dylid llochesu gan fod ymosodiad posibl ar ddod.

Yn dilyn hynny, mae ffrwydradau weithiau i’w clywed. Mae’r ffenestri yn crynu wrth i ddrôn neu daflegryn gael ei chwythu i ebargofiant uwch ein pennau.

Mae’n anghyfreithlon i dynnu lluniau o’r rhyngipiadau yma, a degau wedi eu harestio ar amheuaeth o wneud hynny dros yr wythnosau diwethaf.

Ond mae rhai fideos dramatig yn cael eu cyhoeddi ar gyfryngau cymdeithasol- ac yn brawf clir o nifer y taflegrau sydd yn cael eu saethu a maint y ffrwydron.

Image
Alex Stewart
Mae Alex Stewart o Lanelli yn byw yn Dubai


Dechreuodd y rhyfel yn y rhanbarth ar ddiwrnod olaf mis Chwefror pan ymosododd Israel a’r Unol Daleithiau ar Iran.

Cafodd goruwch arweinydd y wlad honno ei ladd, yr Ayatollah Khamenei. Ond dyw union fwriad yr ymosodwyr ddim yn glir.

Diogelu America rhag ymosodiad oedd “ar fin digwydd” oedd yr esboniad gwreiddiol. Mae nifer yn cwestiynu’r honiad yna, gan gynnwys cyn-bennaeth sefydliad gwrthderfysgaeth yr UDA ymddiswyddodd ddoe.

Mae Donald Trump hefyd wedi sôn bod Iran ar fin datblygu bom niwclear (honiad sydd wedi ei gwneud droeon yn y gorffennol). Mae hefyd wedi annog pobl Iran i godi yn erbyn y gyfundrefn yno, gan alw am “ildio llwyr” gan y gyfundrefn honno i ddod â’r ymosodiadau i ben.

Yn ôl Iran, mae’r ymosodiadau yn groes i gyfraith ryngwladol.

Image
Dubai
Ffyrdd Dubai


Bron i dair wythnos ers yr ymosodiadau gwreiddiol, mae Iran yn dal i daro nôl. Mae’n tanio taflegrau a dronau ar draws y Dwyrain Canol, gan dargedu Israel a gwledydd eraill sydd â chysylltiad ag America neu Israel.

Mae gwledydd fel Kuwait, Qatar a Bahrain yn y Gwlff yn dargedau cyson - a llysgenhadaeth yr UDA yn Baghdad, Irac, wedi ei tharo’n galed yr wythnos hon.

Ar ôl Israel, yr Emiradau Arabaidd Unedig yw prif darged Iran. Wyth o bobl sydd wedi eu lladd yma ers dechrau’r rhyfel, a hynny er bod dros 2,000 o ddronau a thaflegrau wedi eu tanio at y wlad gan Iran dros yr 19 diwrnod diwethaf.

Yn ôl Alex Stewart o Lanelli yn wreiddiol, mae’n fwy tebygol o farw mewn damwain car nag o ganlyniad i ymosodiad gan Iran. Mae’n canmol yr awdurdodau yma am ymateb i’r bygythiad ac yn parhau a’i fywyd bob dydd - ei waith yn y diwydiant dur, gan gymdeithasu hefyd ar y cwrs golff neu ym mariau Dubai. 

Gadael

Yn y brifddinas, Abu Dhabi, mae Rhys Gealy wedi bod yn byw ers tair blynedd.

Mae e hefyd wedi aros hyd yn hyn. Ond nawr, mae e eisiau gadael.

Mae’n dweud ei fod wedi bwriadu gwneud hynny yn yr haf gan ei fod yn gweld eisiau ei deulu a ffrindiau nôl adref . Ond mae’r sefyllfa bresennol wedi ei berswadio i adael yn gynt na’r bwriad gwreiddiol.

“Ro’n i’n meddwl gadel a symud nôl. Ond beth sy’n digwydd ar y foment wedi gwthio fi i moyn mynd nôl falle tamed bach yn fwy glou," meddai.

Image
Rhys Gealy
Mae Rhys Gealy yn ceisio gadael Abu Dhabi ar hyn o bryd


Pan ry’n ni’n siarad gyda Rhys, mae’n ystyried gyrru naw awr i Saudi Arabia er mwyn cael lle ar awyren. Ers dechrau’r rhyfel, mae’n dweud bod prisiau hediadau o’r wlad wedi cynyddu.

“Ma' popeth yn yr aer," meddai.

“Mae prisiau wedi jwmpo lan i adael, jwmpo lawr i ddod draw 'ma.

“Ma' lot o bobl yn mynd i’r maes awyr, pethe’n cael eu canslo, pethe’n cael eu newid. Pethe’n cael eu gwthio mlaen, gwthio nôl - ma' popeth lan yr aer ar y foment felly fi’n cymryd pethe bob awr.

“A siwrnai fyddai wedi gorffen fan hyn fydda’i nôl ar ffôn fi yn edrych ar flight mas o fan hyn.”

Mae hen ffrind ysgol i fi yn cysylltu i ddweud ei fod e a’i deulu wedi dychwelyd i Gwm Cynon at ei fam. Mae’n ymddiheuro ei fod e’n methu gwneud cyfweliad achos ei waith, ond yn esbonio ei fod yn teimlo bod pethau’n rhy beryglus yn Dubai ar hyn o bryd i fyw yma gyda’i blant. 

Image
Rhybuddion Dubai
Rhybuddion ar ffonau symudol yn Dubai


Yn ddi-os, yn Iran ac yn Libanus mae’r dioddefaint mwyaf o ganlyniad i’r rhyfel diweddar.

Dyw gohebu ar y rhyfel rhanbarthol yma ddim yn hawdd.

Mae’n anodd iawn i ohebwyr o wledydd y gorllewin gael mynediad i Iran. Rydyn ni’n dibynnu felly ar bytiau o wybodaeth sydd yn dod o’r wlad pan fydd cysylltiad bregus â’r we yn caniatáu hynny.
 
Pennod waedlyd

Yn ôl rhai o’r negeseuon sydd wedi eu rhannu o Tehran, mae trigolion yn sôn am ofn nawr ar ddwy lefel - yn sôn am yr ofn oherwydd bomio ac ymosodiadau ar eu cymunedau.

Ond mae rhai hefyd yn dweud eu bod nhw ofn y gyfundrefn yno hefyd, ac yn honni bod gafael y gyfundrefn honno ar ei phobl yn fwy cadarn fyth ers dechrau’r brwydro.

Er nad ydyn ni wedi gallu cael mynediad i Iran i weld a chlywed beth sy’n. Digwydd yno gyda’n llygaid a’n clustiau ein hunain, mae tîm Newyddion S4C wedi bod yn ceisio cyfleu a dehongli'r hyn sy’n digwydd yn y Dwyrain Canol i’n gwylwyr.

Dros y pythefnos diwethaf, mae ein cydweithiwr Wyre Davies wedi bod yn dod â’r diweddaraf i wylwyr Newyddion S4C o Libanus, lle mae Israel yn ymosod yn ffyrnig. Targedu Hezbollah, sydd yn cael arian a chefnogaeth gan Iran, yw eu bwriad honedig. 

Ry’n ni wedi treulio wythnos yn Israel yn gohebu ar y sefyllfa yno, tra bod Iwan Griffiths a Rhodri Llywelyn wedi treulio cyfnod yn Nhwrci, ar y ffin gydag Iran, gan glywed profiadau'r rheiny sydd yn gadael y wlad.

Mae miloedd eisoes wedi eu lladd. Ac ar draws y rhanbarth, mae ymosodiadau a bygythiadau yn creu ansicrwydd ac ofn i filoedd os nad miliynau o bobl.

Mae pris olew yn codi, hediadau yn cael eu canslo a phobl yn ffoi o gartrefi a chymunedau.

Gyda dim awgrym clir o hyd ynglŷn â beth yw union nod America ac Israel, mae’n anodd rhagweld diwedd i’r gwrthdaro yn y tymor byr wrth i bennod waedlyd ddiweddaraf y Dwyrain Canol barhau. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.