Llid yr ymennydd: Annog myfyrwyr Prifysgol Caint sydd nôl yng Nghymru i gysylltu â'u meddyg
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog myfyrwyr Prifysgol Caint yn ne Lloegr, sydd wedi dychwelyd adref i Gymru, i gysylltu â'u meddyg teulu am wrthfiotigau yn dilyn achos o lid yr ymennydd yno.
Wrth i'r achosion o lid yr ymennydd gynyddu yng Nghaergaint, mae'r corff iechyd yn ceisio dod o hyd i bobl o Gymru sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad.
Mae'r asiantaeth yn cynghori unrhyw un a ymwelodd â Club Chemistry rhwng 5 a 7 Mawrth ac i fyfyrwyr Prifysgol Caint gael presgripsiwn gwrthfiotigau ataliol.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud eu bod yn ymwybodol y gallai rhai myfyrwyr fod wedi dychwelyd adref i Gymru o'r brifysgol ac y dylen nhw gysylltu â'u meddyg teulu i gael presgripsiwn gwrthfiotigau os nad oedd modd iddynt dderbyn y rhain cyn dychwelyd i Gymru.
Dywedodd Wendi Shepherd, dirprwy gyfarwyddwr diogelu iechyd y corff, eu bod yn gweithio gydag Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU.
"Wrth i fyfyrwyr o Brifysgol Caint ddychwelyd adref, mae'n bwysig eu bod yn cael mynediad at wrthfiotigau ataliol os ydynt yn gymwys, er mwyn amddiffyn eu hunain ac i atal unrhyw drosglwyddiad i eraill," meddai mewn datganiad.
"Rydym yn gweithio gydag Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU i nodi pobl a allai fod yn gymwys i gael eu brechu."
Daw'r alwad ar ôl i Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU gadarnhau pum achos newydd o lid yr ymennydd yng Nghaint, gan ddod â nifer yr achosion i 20.
Mae Prifysgol Caint wedi dechrau cyflwyno brechlynnau meningitis B i tua 5,000 o fyfyrwyr sy'n byw ar y campws yng Nghaergaint ac yn parhau i gynnig miloedd o ddosau o wrthfiotigau i fyfyrwyr a staff.
Daw hyn ar ôl i ddau fyfyriwr farw ar ôl achos o lid yr ymennydd yn gysylltiedig â Club Chemistry yng Nghaergaint rhwng 5 a 7 Mawrth.
Symptomau llid yr ymennydd
Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae brechu’n "ddull allweddol" o amddiffyn rhag llid yr ymennydd.
Os cafodd plentyn ei eni ar neu ar ôl 1 Medi 2015, bydd wedi cael cynnig brechiad yn erbyn llid yr ymennydd B fel rhan o'r rhaglen imiwneiddio reolaidd i blant.
Mae brechiad erbyn llid yr ymennydd math A, C, W ac Y yn cael ei chynnig i bobl ifanc tua 13/14 oed, ond mae modd rhoi brechiad i fyny hyd at 25 oed.
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru nad yw brechu’n amddiffyn rhag pob straen llid yr ymennydd.
"Mae'n bwysig bod yn ymwybodol o arwyddion a symptomau llid yr ymennydd, gan y gall waethygu'n gyflym. Gall diagnosis cynnar a thriniaeth gyda gwrthfiotigau wella canlyniadau'n sylweddol," meddai.
Mae symptomau cynnar, nad ydynt bob amser yn bresennol, yn cynnwys:
- Twymyn
- Pen tost / Cur pen difrifol
- Chwydu
- Gwddf stiff
- Ddim yn hoffi goleuadau llachar
- Brech nad yw'n pylu pan gaiff ei wasgu â gwydr
- Dryswch
- Bod yn gysglyd iawn neu'n anodd deffro
- Trawiadau neu ffitiau
