Newyddion S4C

Boris Johnson yn gwrthod ymddiheuro ar ôl ffrae am ymchwiliad disgyblu Owen Paterson

The Guardian 08/11/2021
Owen Paterson

Mae'r Boris Johnson wedi gwrthod ymddiheuro ar ôl ffrae am ymchwiliad disgyblu y cyn-AS Owen Paterson wythnos diwethaf.

Gwnaeth y Prif Weinidog dro pedol wrth benderfynu peidio bwrw ymlaen i archwilio’r system safonau i ymddygiad Aelodau Seneddol, ddiwrnod ar ôl cyhoeddi’r cynllun.

Fe ymddiswyddodd Mr Paterson fel Aelod Seneddol ddydd Iau yn dilyn y ffrae ac ar ôl i ymchwiliad cynharach ddod i'r casgliad ei fod wedi torri rheolau lobïo "droeon" yn ei rôl ymgynghorol.

Bydd Aelodau Seneddol yn cwrdd mewn cyfarfod brys ddydd Llun i drafod safonau Seneddol, ond ni fydd y Prif Weinidog Boris Johnson yn bresennol.

Gallai Aelodau Seneddol yn San Steffan gael ei gwahardd rhag cymryd rolau ymgynghorol fel oedd gan Mr Paterson.

Yn ôl The Guardian, gallai gwaharddiad o’r fath effeithio ar fwy na 30 o aelodau sy’n ennill hyd at £180,000 yn rhagor y flwyddyn ar ben eu cyflog o £82,000.

Darllenwch y stori’n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.