Xi Jinping eisiau ‘partneriaeth strategol hirdymor’ gyda’r Deyrnas Unedig

Keir Starmer a Xi Jinping

Mae arweinydd Tsieina, Xi Jinping, wedi dweud wrth Syr Keir Starmer ei fod eisiau "adeiladu partneriaeth strategol yn yr hirdymor" gyda’r Deyrnas Unedig.

Fe wnaeth y Prif Weinidog gwrdd â Xi Jinping yn Beijing wrth iddo ymweld â Tsieina ddydd Iau.

Dywedodd Mr Xi fod y berthynas rhwng y DU a Tsieina yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi gweld “troeon nad oeddent yn gwasanaethu buddiannau ein cenhedloedd”.

Gan ddisgrifio cyflwr y byd fel un “ansicr a hylifol”, dywedodd Mr Xi fod angen rhagor o ddeialog rhwng y DU a Tsieina.

Roedd hynny “er mwyn heddwch a sefydlogrwydd y byd ac er mwyn economïau a phobl ein dwy wlad”.

Dywedodd: “Yn y gorffennol, mae llywodraethau Llafur wedi gwneud cyfraniadau pwysig at dwf y berthynas rhwng Tsieina a’r DU.

“Mae Tsieina yn barod i ddatblygu partneriaeth strategol hirdymor a chyson gyda’r DU. Bydd o fudd i’n pobl ni’n dau.”

Dywedodd Keir Starmer wrth Xi Jinping ei fod eisiau meithrin perthynas “fwy soffistigedig” â Tsieina.

Ychwanegodd ei bod hi wedi bod yn “rhy hir” ers i brif weinidog Prydeinig ymweld â’r wlad, a bod Tsieina yn “wlad bwysig ar y llwyfan byd-eang”.

Ycwhanegodd eu bod nhw wedi "gwneud cynnydd da iawn ar dariffau ar gyfer wisgi".

Dywedodd awdurdodau Tsieina eu bod yn barod i ystyried caniatáu i ddinasyddion y DU fynd i mewn i’r wlad heb fisa.

Dywedon nhw hefyd eu bod wedi cytuno y dylai Tsieina a’r DU ddatblygu “partneriaeth strategol hirdymor, sefydlog a chynhwysfawr”.

Roedd adroddiad o’r cyfarfod gan Tsieina hefyd yn nodi bod polisi’r DU ar Taiwan “yn parhau heb ei newid ac na fydd yn newid”.

Llun: Keir Starmer a Xi Jinping gan Carl Court / PA.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.