Biliau ynni: Disgwyl cynnydd dros y gaeaf
Bydd rheoleiddiwr y diwydiant ynni yn cyhoeddi lefel y cap ar brisiau blynyddol ynni ddydd Mercher, gyda disgwyl i brisiau godi.
Yn ôl dadansoddwyr mae disgwyl cynnydd yng nghostau ynni yn sgil y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol.
Fe fydd Ofgem yn cyhoeddi lefel y cap ar gyfer y tri mis rhwng Hydref a Rhagfyr 2026, ar gyfer yr aelwyd arferol sy'n defnyddio nwy a thrydan yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.
Mae rhagolygon yn awgrymu y gallai aelwydydd weld eu biliau'n cynyddu 4% yn ystod chwarter olaf y flwyddyn.
Ychwanegodd y dadansoddwyr mai'r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol yw'r prif ffactor sy'n dylanwadu ar gost ynni, ond bod y gwres eithafol sy'n parhau ar draws Ewrop hefyd yn effeithio ar brisiau.
Mae arbenigwyr o Cornwall Insight wedi rhagweld yr wythnos diwethaf y gallai'r aelwyd arferol wynebu bil blynyddol o £1,729, sy'n gynnydd o £66 y flwyddyn.
Dywedodd y rheoleiddiwr mai hwnnw fyddai'r bil drytaf ar gyfartaledd ers Gorffennaf 2023.
Mi fydd y cynnydd ym mis Hydref yn digwydd wrth i bobl orfod gwresogi eu cartrefi yn ystod misoedd y gaeaf - gan arwain at filiau uwch.
Ond yn ôl Cornwall Insight, bydd y cynnydd sydd i'w ddisgwyl fis Hydref yn llai na'r hyn gafodd ei ddarogan yn wreiddiol oherwydd cynlluniau i ddileu Treth Ar Werth oddi ar filiau trydan aelwydydd.
Dywedodd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig Andy Burnham y gallai'r polisi newydd hwn dynnu tua £45 oddi ar gap prisiau blynyddol Ofgem ym mis Hydref.
Ond mae arbenigwyr yn dadlau fod y newid diweddar yng nghostau ynni yn fyd-eang yn golygu na fydd y polisi hwn yn cael effaith enfawr.
Mae'r data diweddaraf yn dangos fod mwy na thair miliwn o ddefnyddwyr mewn dyled o £1,800 ar gyfartaledd, yn ôl Energy UK.
Yn ôl prif weithredwr cwmni Energy UK Dhara Vyas, mae "angen rhagor o gymorth" i gefnogi aelwydydd sy'n wynebu rhagor o gostau.
Yr wythnos diwethaf fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU bod "mynd i'r afael â chostau byw yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth, am eu bod yn gwybod fod teuluoedd yn pryderu am gostau ynni uwch y gaeaf hwn.
"Rydym yn ceisio tynnu costau TAW oddi ar filiau, er mwyn sicrhau y gall oddeutu chwe miliwn o garterfi elwa o Gynllun Cartrefi Clyd y Llywodraeth, gan wneud miliynau o gartrefi yn rhatach i'w rhedeg y gaeaf hwn" meddai.

