Gweinidog Llywodraeth Cymru yn 'obeithiol' am ragor o bwerau wedi'u datganoli
Mae un o weinidogion Llywodraeth Cymru yn dweud ei fod yn obeithiol y bydd rhagor o bwerau’n cael eu datganoli ar ôl trafodaethau cychwynnol gyda Phrif Weinidog y DU.
Bydd dydd Mercher yn nodi 100 diwrnod union ers cyfarfod cyntaf Cabinet Llywodraeth Plaid Cymru.
Dywedodd Dafydd Trystan Davies, y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad, fod trafodaethau gydag Andy Burnham dros yr wythnosau diwethaf wedi bod yn rhai “positif”.
Ychwanegodd fod y llywodraeth wedi gwneud "dechrau cryf" ar gyflawni ei huchelgeisiau ac "eisoes wedi dechrau gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau pobl".
"Un o’r blaenoriaethau allweddol rydyn ni wedi’u nodi fel llywodraeth yw sefyll dros Gymru ac roedd y cyfarfod cychwynnol rhwng y Prif Weinidog a Phrif Weinidog y DU yn gadarnhaol ac yn adeiladol," meddai Dafydd Trystan Davies.
Ychwanegodd Mr Davies ei fod hefyd wedi siarad â Phrif Weinidog y DU, Andy Burnham, ddydd Gwener diwethaf.
Dywedodd ei fod yn gobeithio "gwneud cynnydd drwy weithio’n adeiladol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar bethau fel cyllid rheilffyrdd, ar Ystâd y Goron, ac ar ddatganoli plismona".
Ym mis Gorffennaf, collodd Llywodraeth Cymru bleidlais dyngedfennol ar ei chynlluniau gwariant.
Roedd Llafur a Phlaid Cymru wedi anghytuno ar gynnwys y gyllideb atodol, sef y gwariant ychwanegol roedd y llywodraeth yn awyddus i’w wneud er mwyn bwrw ymlaen â’i blaenoriaethau.
Heb fwyafrif yn y Senedd, dyma oedd yr her fwyaf i'r llywodraeth newydd ers dod i rym ym mis Mai.
Ychwanegodd Mr Davies: "Rwy'n disgwyl i ni fel llywodraeth i weithio gyda phleidiau eraill a byddwn i hefyd yn disgwyl i bleidiau eraill weithio yn adeiladol gyda ni ar welliannau i fywydau pobl Cymru."
'Siomedig'
Fe wnaeth arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Darren Millar gyhuddo Plaid Cymru o "ddiffyg brys gwirioneddol" yn eu 100 niwrnod cyntaf mewn llywodraeth.
"Mae 100 niwrnod cyntaf Plaid wedi bod yn gyfres siomedig o gyfleoedd wedi eu colli i droi'r dudalen ar 27 mlynedd o lywodraethiant Llafur yng Nghymru," meddai.
Dywedodd arweinydd Llafur Cymru Ken Skates: "Wrth i Lywodraeth Plaid Cymru nodi 100 niwrnod, cyrff newydd ac adolygiadau yw eu cyflawniad mwyaf.
"I’r blaid a gafodd ddegawdau i graffu ar eu rhagflaenydd a’u cwestiynu, gan fanteisio ar bob cyfle i dynnu sylw at sut y gallent wneud y gwaith o arwain Cymru’n well, mae realiti hanner tymor cyntaf Plaid Cymru yn Senedd Cymru wedi gadael llawer yn teimlo’n siomedig."

