Santander yn bwriadu cau rhagor o ganghennau ar draws Cymru

Cangen Santander Caernarfon
Cangen Santander Caernarfon

Mae banc Santander wedi cyhoeddi y bydd yn cau 44 o ganghennau, gan gynnwys pump yng Nghymru.

Bydd canghennau yn yr Wyddgrug, Cwmbrân, Hwlffordd, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr yn cau, medden nhw.

Bydd 291 o swyddi yn cael eu peryglu gan y cau ar draws y DU, meddai’r cwmni.

Dywedodd y cwmni o Sbaen fod ei gwsmeriaid yn symud yn gynyddol tuag at wasanaethau digidol.

Roedd 96% o holl drafodion y banc bellach yn cael eu cwblhau ar-lein, medden nhw.

Daw hyn lai na blwyddyn ar ôl i’r busnes gyhoeddi cau 95 o ganghennau ym mis Mawrth y llynedd, gan beryglu 750 o weithwyr.

Roedd hynny’n cynnwys canghennau yn Aberdâr, Aberhonddu, Bae Colwyn, Caergybi, Caernarfon, Y Coed Duon a Threffynnon.

Dywedodd Santander y bydd rhai canghennau yn cael eu disodli gan “fancwyr cymunedol”, a fydd yn gweithredu o ganghennau Santander Local neu ganolfannau bancio.

Dywedodd llefarydd ar ran Santander: “Mewn ymateb i symudiad parhaus a sylweddol tuag at fancio digidol, rydym yn gwneud newidiadau i’n canghennau i gefnogi ein cwsmeriaid yn well.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.