Mam o Abertawe yn galw am ragor o arian ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol
Mae angen gwario rhagor o arian ar gefnogi disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, yn ôl mam o Abertawe.
Dywedodd Clare Anna Mitchell bod ei merch 11 oed Dakota ac eraill yn cael eu methu gan system oedd heb ei hariannu yn ddigonol.
Bydd awdurdodau lleol Cymru yn gwario tua £668 miliwn eleni ar ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol (ADY) mewn ysgolion.
Mae hynny’n gynnydd o 87% dros y degawd diwethaf, ond mae pryderon cynyddol nad yw hyn yn agos at ddiwallu anghenion disgyblion.
Mae undeb arweinwyr ysgol NAHT Cymru wedi rhybuddio nad yw ysgolion yn mynd i allu ymdopi gyda’r galw cynyddol am adnoddau heb ragor o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.
Wrth siarad â rhaglen Sharp End ITV Cymru, dywedodd Clare Anna Mitchell bod “athrawon yn gwneud eu gorau” ac nad oedd hi’n beirniadu ysgolion sy’n “gwneud eu gorau glas”.
"Mae'r awdurdodau lleol yn gwneud yr hyn y maen nhw’n gallu gyda'r arian sydd ganddyn nhw, ond mae angen mwy o arian arnom ni,” meddai.
“Ymdopi yw bron y gorau y gall y disgyblion obeithio amdano ar hyn o bryd. Ffynnu yw lle rydyn ni eisiau i'n plant fod yn yr ysgol ac nid ydyn nhw'n agos at ffynnu ar hyn o bryd.”
Dywedodd undeb NAHT Cymru nad oedd “y cyllid maen nhw'n ei dderbyn a'r gofynion maen nhw'n eu hwynebu yng nghanol costau cynyddol” bellach yn cyd-fynd.
"Gwelodd ein harolwg cyllido diwethaf yn ystod blwyddyn ysgol 2024/25 bron i naw o bob deg arweinydd ysgol - 88% - yn nodi ADY fel ffactor mawr sy'n achosi pwysau ariannol, i fyny o 69% yn 2021.”
Ymateb
Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae ein Cyllideb Derfynol yn blaenoriaethu darpariaeth ADY i ddysgwyr a'r staff sy'n eu cefnogi.
“Mae £20.3m mewn cyllid ychwanegol ar gyfer dysgwyr ADY, gan gyfrannu at fuddsoddiad cyffredinol o £74m.
"Rydym hefyd yn cydnabod y pwysau ar ysgolion a gwasanaethau cyhoeddus hanfodol ac wedi cynyddu ein cyllid i awdurdodau lleol 4.5%, gan ddarparu £6.6bn yn y flwyddyn ariannol nesaf."
