'Sarhad': Cynnydd arall mewn prisiau biliau dŵr yng Nghymru
Mae aelod seneddol wedi beirniadu penderfyniad dau gwmni dŵr sy’n gwasanaethu cwsmeriaid yng Nghymru i godi biliau dŵr.
Dywedodd AS Brycheiniog, Maesyfed a Chwm Tawe, David Chadwick, bod angen rheoleiddiwr newydd yng Nghymru i sicrhau bod yr arian yn cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau o safon uwch.
Bydd biliau cyfartalog cwsmeriaid domestig Dŵr Cymru yn cynyddu 4.8% yn 2026–27, cynnydd o £31 i £683.
Bydd biliau Hafren Dyfrdwy, sy’n gwasanaethu rhannau o Gymru o Lanidloes hyd at Wrecsam ar y ffin, yn codi 8.5%, i fyny £54 i £635.
Bydd biliau dŵr cartrefi ledled Cymru a Lloegr yn codi 5.4% ar gyfartaledd o fis Ebrill ymlaen.
Dywedodd Prif Weithredwr newydd Dŵr Cymru, Roch Cheroux, ei fod yn deall bod y cynnydd diweddar mewn prisiau “wedi bod yn sylweddol ar adeg pan fo costau’n cynyddu drwyddi draw ar gyfer cwsmeriaid".
“Wrth i mi gychwyn fy rôl newydd gyda Dŵr Cymru, mae fy ffocws yn gadarn ar geisio darparu gwasanaethau dŵr o safon ryngwladol ar gyfer ein cwsmeriaid a’u cymunedau,” meddai.
“Mae hi’n hanfodol bwysig ein bod ni’n darparu’r gwasanaethau y mae cwsmeriaid yn eu dymuno ar bris y gallant ei fforddio.”
Rhwng 2025–30 bydd dros £4bn yn cael ei fuddsoddi yng ngwasanaethau Dŵr Cymru – sef dwbl y buddsoddiad yn 2020–25 – ac mae hyn yn cynnwys £2.5bn ar brosiectau i wella’r amgylchedd, meddai’r cwmni.
Ond dywedodd yr AS David Chadwick, sy’n llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol yn San Steffan, bod y cynnydd yn “sarhad llwyr yn ystod argyfwng costau byw”.
“Ni ddylai aelwydydd orfod talu am fethiannau cwmnïau dŵr preifat i lanhau’r llanast a grëwyd ganddynt eu hunain,” meddai.
“Nid yw diwygiadau Llywodraeth y DU yn mynd i’r afael â maint yr her.
“Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru eisiau i Ofwat gael ei ddisodli gan reoleiddiwr newydd pwerus yng Nghymru sydd â dannedd i roi’r amgylchedd a chwsmeriaid yn gyntaf.
“Rhaid inni symud i fodel perchnogaeth gydfuddiannol sy’n sicrhau bod arian yn cael ei fuddsoddi yn ein seilwaith, nid i lenwi pocedi cyfranddalwyr.”
'Cefnogaeth'
Dywedodd prif weithredwr dros dro Ofwat, Chris Walters, fod y rheoleiddiwr yn helpu i gyrraedd y nod o afonydd a moroedd glanach.
“Erbyn mis Ebrill 2027 rydym yn disgwyl i gwmnïau dŵr fod wedi gosod mwy nag wyth miliwn o fesuryddion dŵr mewn cartrefi i helpu cwsmeriaid i reoli eu biliau, i fod wedi disodli bron i 3,000km o bibellau a fydd yn sicrhau bod cwsmeriaid yn profi llai o darfu ar y cyflenwad, a lleihau gollyngiadau carthffosiaeth o orlifiadau storm 30% o lefelau 2024,” meddai.
“Fodd bynnag, rydym hefyd yn cydnabod y gallai’r cynnydd hwn mewn biliau fod yn anodd i rai pobl.
“Dyna pam ein bod ni wedi cymeradwyo dyblu’r gefnogaeth sydd ar gael i gwmnïau i helpu cwsmeriaid sy’n cael trafferth talu, ac mae mwy na dwy filiwn o gartrefi bellach yn cael mynediad at y cymorth hwn.”
