'Creisis' yn y byd addysg wedi cyfrannu at benderfyniad cyn-bennaeth o Fôn i adael ei swydd

Gareth Owen

Mae cyn-bennaeth ysgol o Fôn yn dweud bod "creisis" o fewn y byd addysg wedi cyfrannu at ei benderfyniad i adael ei swydd.

Daw sylwadau Gareth Owen wrth i un o bwyllgorau'r Senedd gyhoeddi adroddiad yn nodi bod "pwysau cynyddol ar weithlu addysgu Cymru" sydd yn "bygwth gallu ysgolion i recriwtio a chadw staff".

Mae Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Buffy Williams AS yn dweud bod angen i Lywodraeth Cymru gymryd "camau brys ac ymarferol" i leddfu'r pwysau ar athrawon.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "gwneud cynnydd sylweddol o ran mynd i'r afael â llwyth gwaith staff".

Fe wnaeth Gareth Owen adael ei swydd yn Ysgol Gynradd Kingsland dros yr haf a chychwyn cwmni Coffi Tech, sydd yn trwsio peiriannau coffi.

Dywedodd wrth Newyddion S4C: "Mewn gwirionedd ma’r pwysau gwaith yn mynd yn gynyddol yn fwy lle ma’n anoddach i athrawon a phenaethiaid wneud y petha' statudol heb sôn am wneud y petha' ychwanegol.

"Ma' 'na greisis yn y proffesiwn o ran recriwtio ond hefyd i gadw rhai o’r athrawon gwych sy’ ‘na.

"Ma'r awdurdodau’n gweld hi'n anodd o ran dod a’r ariannu o Lywodraeth Cymru drwy’r awdurdodau lleol wedyn i ysgolion."

'Llosgi allan'

Ychwanegodd Mr Owen fod yna "sgwrs naturiol o fewn y proffesiwn" wrth drafod pryd y maen nhw'n gobeithio rhoi gorau i'w swydd. 

"Yn lle bynnag ydach chi yn y wlad, pa bynnag gylch o athrawon, mae hyn yn naturiol yn troi’n sgwrs sydd yn symptom o’r pwysau sydd ar unigolion o fewn y proffesiwn," meddai. 

"Dwi fod gweithio tan fy mod i’n 60, ond dwi wedi mynd pedair blynedd yn gynt na ddylwn i mewn ffordd, am mod i’n gallu gwneud.

"Dydi hi ddim yn mynd i fod fel 'na i bawb, ma’r oedran cymryd ymddeoliad cynnar yn mynd yn hwyrach ac yn hwyrach ac ma' hynny’n bryder i rai. Mae pobl yn llosgi allan."

Yn ôl Mr Owen, fe allai'r broblem o recriwtio athrawon hefyd effeithio ar yr ymgais o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

"Ma’ angen meddwl ynglŷn â hynny achos 'dan ni isio gwireddu hyn, ond ma' sicrhau i gael athrawon a phenaethiaid sydd yn gallu'r Gymraeg i wireddu hynny," meddai.

"Roedd tri ohonom ni fel penaethiaid wedi gadael y llynedd, a dwi’n nabod tri arall fydd yn gadael yr haf ‘ma neu’n gynt."

'Sefyllfa argyfyngus'

Mae'r diffyg adnoddau hefyd yn pryderu Mr Owen.

"Ma' athrawon yn trio gwneud mwy efo llai a mynd yn ddibynnol ar staff cefnogi, sydd ddim yn cael eu talu hannar digon i'r swyddi maen nhw’n ei wneud," meddai. 

"Ma’ hi’n sefyllfa argyfyngus.

"Er fy mod i wedi mwynhau fy swydd, wrth fy modd ac yn methu’r plant a fy nghyd-weithwyr, ma’ rhaid bod y pwysau gwaith a'r cyfrifoldeb sydd yn mynd law yn llaw o fod mewn ysgol wedi effeithio ar fy mhenderfyniad i arallgyfeirio."

Argymhellion

Mae adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn nodi bod athrawon yn "ymroddedig iawn" i'w disgyblion er gwaethaf heriau gan gynnwys llwyth gwaith a beichiau gweinyddol.

Roedd y ffactorau hyn yn effeithio ar allu athrawon o "wneud y gwaith maen nhw'n ei garu" gan arwain at rai yn gadael eu swyddi, meddai'r pwyllgor.

Galw mae'r pwyllgor ar Lywodraeth Cymru i wneud newidiadau "allweddol" er mwyn  "gwneud y proffesiwn yn fwy deniadol."

Mae'r rhain yn cynnwys:

1) Caniatáu amser Cynllunio, Paratoi ac Asesu oddi ar y safle;

2) Cyhoeddi canllawiau ymddygiad cenedlaethol clir;

3) Dileu rhwystrau i ymuno â'r proffesiwn.

Ychwanegodd y pwyllgor mai "nawr yw'r amser" i fynd i'r afael â'r broblemau yma.

Byddai datrys y problemau yn "adeiladu gweithlu sy'n teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi, ei gefnogi ac yn gallu darparu'r addysg o ansawdd uchel y mae pob dysgwr yn ei haeddu".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Fel gwledydd eraill ar draws y byd, mae Cymru'n wynebu problemau o ran recriwtio a chadw staff, a phryderon ynghylch lles athrawon, arweinwyr ysgolion a staff cymorth. 

"Rydym yn parhau i weithio gyda'r proffesiwn addysgu a phartneriaid wrth i ni ddatblygu ein Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Addysg, a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth.

 "Rydym hefyd yn gwneud cynnydd sylweddol o ran mynd i'r afael â llwyth gwaith staff ac wedi cynyddu cyflog athrawon 4% ar gyfer 2025/26. 

"Rydym yn gobeithio y bydd y camau hyn yn helpu i wella cyfraddau cadw athrawon."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.