'Dedfryd oes': Teulu mam-gu aeth ar goll ddegawd yn ôl yn apelio am wybodaeth

Lorraine Ridout

Mae teulu mam-gu o Gaerdydd aeth ar goll ddegawd yn ôl wedi cyhoeddi apêl o’r newydd er mwyn ceisio dod o hyd iddi. 

Fe aeth Lorraine Ridout, 57 oed, ar goll o’i chartref ar Ffordd Aberporth yn y brifddinas ar 31 Ionawr 2016. 

Cafodd ei gweld am y tro diwethaf ar Heol Amlwch, Caerdydd am 19.40, wedi iddi fod yn ardal siop Premiere ar Rodfa Gabalfa yn gynharach y noson honno. 

Mae ei theulu bellach wedi cyhoeddi apêl o’r newydd yn y gobaith o ddod o hyd i’r “fam, mam-gu, gwraig, a ffrind da iawn.” 

Dywedodd ei merch, Christine, bod ei theulu wedi dioddef poen “nad oes modd ei disgrifio” yn ystod y ddegawd ddiwethaf. 

“Mae 10 mlynedd yn teimlo fel dedfryd oes o alar. Roedd fy mam wedi ei charu gan ei gŵr, ei merched, ei mab a’i hŵyr. 

“Ers iddi fynd ar goll mae ganddi wyrion ac wyresi y bydda nhw wrth eu bodd yn ei chyfarfod â hi. 

“Mae fy mam wedi methu cymaint o ddigwyddiadau teuluol ac mae bywyd yn annioddefol hebddi. 

“Roedd ein mam yn hardd ac roedd hi bob tro yna i’w theulu a’i ffrindiau. Rydym yn deffro pob dydd mewn gobaith gan mai dyna’r unig beth sydd gennym ar ôl. 

“Mam, dan ni’n dy garu di a dan ni heb anghofio ti.”

Image
Lorraine Ridout
Lorraine Ridout

'Plîs cysylltwch'

Cafodd Lorraine ei disgrifio fel menyw hil gymysg denau gyda gwallt Afro du a llygaid brown pan aeth hi ar goll. Roedd hi’n 171cm o daldra. 

Mae ymdrechion sylweddol wedi bod er mwyn dod o hyd i Lorraine ar hyd y blynyddoedd. 

Mae lluoedd yr heddlu a’r gwasanaethau brys wedi bod yn cydweithio’n agos, ac mae trigolion yn ardal Gabalfa a'r Tyllgoed yng Nghaerdydd wedi bod yn chwilio amdani hefyd dros y blynyddoedd. 

Daw’r apêl newydd gan deulu Lorraine drwy fudiad Missing People. 

Dywedodd Swyddog Cyhoeddusrwydd y sefydliad, Ndella Senghore eu bod yn annog pobl i gysylltu gydag unrhyw wybodaeth all fod o gymorth. 

“Lorraine, os ydych chi’n darllen hwn, plîs cysylltwch,” ychwanegodd. 

“Fe allwch chi gysylltu drwy ffonio 116 000. Rydym yn wasanaeth cyfrinachol rhad ac am ddim ac ni fyddwn yn eich beirniadu.” 

Mae modd cysylltu gyda Missing People drwy eu gwefan hefyd. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.