Griff Lynch: Y cysylltiad rhwng cerddoriaeth a gwleidyddiaeth

Y Byd yn ei Le

Griff Lynch: Y cysylltiad rhwng cerddoriaeth a gwleidyddiaeth

Mae 2026 yn flwyddyn fawr i wleidyddiaeth Cymru, gyda’r etholiad nesaf i Senedd Cymru yn digwydd ar 7 Mai.

Mae'r arolygon barn yn awgrymu bod cyfnod Llafur fel plaid fwyaf Cymru o dan fygythiad. Llafur sydd wedi arwain pob llywodraeth ddatganoledig. 

Yn ôl arbenigwyr, dyma'r etholiad Senedd fwyaf arwyddocaol ers dechrau datganoli yn 1999.

Ac mae dipyn o newidiadau ar y gweill. 

Y flwyddyn nesaf bydd nifer yr ASau yn cynyddu o 60 i 96, ac mae'r map etholiadol wedi newid.

Bydd yr etholaethau a rhanbarthau presennol yn diflannu, ac yn eu lle bydd 16 o etholaethau newydd, fydd yn cael eu cynrychioli gan chwe aelod yr un.  

Dros y misoedd nesaf bydd pleidiau yn lansio eu maniffestos ac yn ceisio ennill pleidleisiau. Ond beth yw’r ffactorau eraill sy’n llywio barn y cyhoedd?

Un ffactor sydd ddim wedi cael ei drafod yw a oes yna gysylltiad rhwng cerddoriaeth pop a gwleidyddiaeth yma yng Nghymru?

Griff Lynch sy’n ceisio ateb y cwestiwn ar raglen Y Byd yn ei Le

Hanes canu protest 

"Mae cerddoriaeth bop wedi bod yn cario ychydig o wleidyddiaeth yn y sêt pasinjyr ers degawdau, a’r daith honno’n un ryngwladol," meddai'r cerddor o Wynedd.

"Mae’n ddifyr meddwl am alawon gwerin y gwledydd Celtaidd yn teithio draw i America, yn cael eu hail-ddychmygu fel cerddoriaeth brotest gan artistiaid fel Woody Guthrie a Bob Dylan, ac yna’n teithio’n ôl ar donfeddi radio i Gymru, lle oedd ’na Ddafydd Iwan ifanc yn gwrando.

"Y gweddill wrth gwrs yn rhan o hanes pop Cymraeg yma yng Nghymru.

"Mae’n anodd mesur pa mor ‘llwyddiannus’ ydi cân brotest yn wleidyddol. Dydy caneuon ddim yn pasio deddfau nac yn ennill etholiadau. 

"Ond maen nhw yn gallu newid y ffordd ma pobl yn teimlo, ac weithiau’r ffordd maen nhw’n meddwl.

"Un o’r pethau sy’n g'neud bodau dynol mor bwerus ydi’r gallu i rannu straeon a theimladau ar raddfa fawr. A dyna i raddau mae caneuon protest yn ei wneud, sef creu profiad emosiynol mae pobl yn awyddus i rannu efo pobl erill." 

Dafydd Iwan

"Os edrychwn ni ar boblogrwydd Dafydd Iwan yn y 60au a’r 70au, roedd ei ganeuon yn rhan o ecosystem ehangach, megis Cymdeithas yr Iaith, Tryweryn, a’r hyder cynyddol 'nath arwain at dwf Plaid Cymru.

"O bosib mi gollodd cân brotest rhywfaint o’i rym wrth i gerddoriaeth bop ddod yn fwyfwy masnachol o ddiwedd y 70au ymlaen. 

"Wrth i labeli recordio droi’n gorfforaethau rhyngwladol cyfoethog, dyfodiad rhaglenni teledu fel MTV yn canolbwyntio ar ddelwedd, adloniant ac ‘escapism’, doedd canu protest yn sydyn reit, ddim cweit mor ‘sexy’ o bosib.

"Ond dyma ni, heddiw mae o i weld yn fyw ac yn iach ar ffurf y band Kneecap. Band hip hop o Belfast sy’n defnyddio eu platfform i hybu yr iaith Wyddeleg a'u negeseuon gwleidyddol.

"Efallai yr enghraifft mwyaf effeithiol o rannu gwleidyddiaeth drwy gerddoriaeth ers y 60au? Pwy a ŵyr. 

"Un peth sy’n sicr, ydi eu bod nhw wedi llwyddo i wneud eu negeseuon gwleidyddol yn ffasiynol ac yn apelgar, drwy gyfuniad o ddelwedd, cerddoriaeth ac agwedd."

Mae modd clywed dadansoddiad llawn Griff Lynch a’r diweddara o'r byd gwleidyddol yng Nghymru a thu hwnt ar Y Byd yn ei Le, ar gael ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.

Llun: Carys Huws 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.