Gosod targed i roi diwedd ar ysmygu yng Nghymru erbyn 2030
Mae’r llywodraeth wedi gosod targed i roi diwedd ar ysmygu yng Nghymru erbyn 2030.
Dyma'r diweddaraf o gyfres o fesurau i wella iechyd ac atal marwolaethau cynamserol.
Ysmygu sy’n gyfrifol am achosi'r mwyafrif o afiechydion y gellir eu hatal yn ogystal â marwolaethau cynamserol yng Nghymru, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Cafodd y targed ei chyhoeddi fel rhan o strategaeth Cymru Ddi-fwg Llywodraeth Cymru, sydd yn destun ymgynghoriad tan y flwyddyn newydd.
Wrth wraidd y cynllun mae'r nod o ddod o hyd i ffyrdd o roi cymorth ychwanegol i helpu mwy o bobl i roi’r gorau i ysmygu drwy'r Gwasanaeth Iechyd.
Mae’r cyhoeddiad yn “gam cadarn ymlaen” yn ôl elusen Ash Cymru.
Mae’n dilyn y cyhoeddiad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn 2019, sydd wedi gosod yr un targed o weld Lloegr yn ddi-fwg erbyn 2030.
Eleni fe wnaeth Llywodraeth Cymru ei gwneud hi’n anghyfreithlon i ysmygu mewn meysydd chwarae ac ar diroedd ysgol ac ysbytai.
Bydd hi hefyd yn anghyfreithlon i wneud hynny mewn gwestai a llety hunangynhaliol, fel bythynnod a charafanau o fis Mawrth 2022, gydag unrhyw un sy’n torri’r rheolau yn wynebu dirwyon.
Beth yw maint y broblem?
Ar hyn o bryd mae 14% o bobl yng Nghymru yn ysmygu, ond fe hoffai o leiaf 64% roi’r gorau iddi yn ôl ffigyrau Arolwg Iechyd Cymru.
Mae’r llywodraeth hefyd yn bryderus bod y rhai sydd mewn ardaloedd mwy difreintiedig yn fwy tebygol o ysmygu.
Yn ôl ffigyrau Ash Cymru, mae 26% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn ysmygu, o’i gymharu â 11% o’r ardaloedd lleiaf difreintiedig.
Mae ymchwil hefyd yn dangos fod unigolion sy'n byw â salwch meddwl tua ddwywaith yn fwy tebygol o ysmygu na phobl sydd heb gyflyrau iechyd meddwl.
Mae elusen Ash Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad.
“Ysmygu sy’n gyfrifol am achosi’r rhan fwyaf o afiechyd y gellir ei atal a marwolaethau cynamserol yng Nghymru, gan gymryd bywydau dros 5,000 o bobl y flwyddyn," meddai eu Prif Weithredwr Suzanne Cass.
“Mae’r ymgynghoriad i’r strategaeth tobacco yn gam ymlaen i ddyfodol lle na fydd ysmygu yn faich i iechyd y cyhoedd, yr economi, a gwasanaethau hanfodol.
“Mae’n gam cadarn ymlaen tuag at Gymru iachach, a dyfodol iachach.”
‘Angen cydweithio fel cymdeithas’
Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, Frank Atherton wedi dweud fod angen “cydweithio fel cymdeithas” i sicrhau fod llai yn ysmygu, a lleihau salwch o ganlyniad i ysmygu.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle: “Er ein bod wedi gwneud cynnydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf o ran lleihau nifer y bobl sy’n smygu, hoffem fynd ymhellach a bod yn uchelgeisiol gan greu Cymru lle nad smygu yw’r ‘norm’ o bell ffordd.
“Hoffwn annog pobl i rannu eu barn ar yr ymgynghoriad hwn a helpu i siapio penderfyniadau’r dyfodol.”
Bydd cynnwys y strategaeth yn cael ei benderfynu yn dilyn ymgynghoriad sydd ar agor i’r cyhoedd tan 31 Ionawr.