Newyddion S4C

Cip olwg ar benawdau'r bore

24/09/2021
Y Penawdau [NS4C]
NS4C

Bore da gan dîm Newyddion S4C.

Dyma olwg ar brif benawdau'r bore ar ein gwasanaeth ar fore Gwener, 24 Medi.

Galw ar Lywodraeth y DU i gael gwared o nwy'n raddol erbyn 2035

Mae cwmnïau mawr megis BT, Nestle, Thames Water a Co-op yn galw ar Lywodraeth y DU i ymrwymo i bŵer net-sero a dod â'r ddibyniaeth ar nwy i ben erbyn 2035.  Dywed Sky News byddai cynlluniau o'u fath yn debyg i bolisïau yn yr Unol Daleithiau a Chanada. Daw hyn wrth i Brydain wynebu argyfwng prinder ynni, sydd yn effeithio cwmnïau cyflenwi bwydydd a gorsafoedd petrol. 

Marwolaeth Sabina Nessa: Heddlu'n chwilio am ddyn arall

Mae Heddlu'r Met yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddynes 28 oed, Sabina Nessa, gael ei llofruddio yn Llundain. Cafodd dyn 38 oed ei arestio ar amheuaeth o lofruddio'r athrawes ddydd Iau, ac mae'n parhau yn y ddalfa. Yn ôl Heddlu'r Met, dyma'r ail berson i gael ei arestio mewn cysylltiad â'i marwolaeth. Dywed The Guardian fod yr heddlu nawr yn dymuno siarad â dyn arall ac wedi cyhoeddi lluniau CCTV ohono yn ardal Pegler Square yn ne-ddwyrain Llundain ar y noson ymosodwyd Ms Nessa. 

Plaid Cymru a'r Blaid Werdd yn creu cytundeb etholiadol 

Mae Plaid Cymru â Phlaid Werdd Cymru wedi cyhoeddi eu bod nhw'n ffurfio cynghrair etholiadol yng Nghaerdydd ar gyfer yr Etholiadau Lleol Cymru yn 2022. Mae Cyngor Caerdydd wedi'i redeg gan Lafur ers 2012, gyda'r Cynghorydd Huw Thomas wrth y llyw fel arweinydd ers 2017. Mewn datganiad ddydd Gwener, cyhoeddodd Plaid Cymru y bydd y gynghrair yn gweithio gyda’i gilydd fel "plaid unedig" ar draws wardiau’r ddinas. 

Cyn-arlywydd Catalwnia yn cael ei arestio'n Yr Eidal 

Mae cyn-arlywydd a'r ymgyrchydd dros annibyniaeth i Gatalwnia, Carles Puigdemont, wedi cael ei arestio yn Yr Eidal. Daw hyn pedair blynedd ers i Mr Puigdemont ffoi o Sbaen ar ôl i'r llywodraeth yn Madrid gyhoeddi fod y refferendwm annibyniaeth i Gatalwnia yn "anghyfansoddiadol". Roedd disgwyl i Puigdemont ymddangos o flaen llys ddydd Gwener mewn gwrandawiad a allai ei weld yn gorfod dychwelyd yn ôl i Sbaen ar gyhuddiad o annog gwrthryfel yno. 

Paratoi am ddiwrnod i'r brenin gyda Gwyl Elvis ar ei newydd wedd

Bydd Gŵyl Elvis yn cael ei chynnal ar ei newydd wedd ym Mhorthcawl eleni gyda chyfyngiadau Covid-19. Mae’r ŵyl flynyddol sy’n dathlu bywyd y brenin Roc a Rôl, Elvis Presley, yn uchafbwynt yng nghalendr blynyddol ei gefnogwyr pennaf. Ar ôl gorfod gohirio’r digwyddiad llynedd, bydd yr ŵyl yn para tri diwrnod yn y Grand Pavillion ym Mhorthcawl eleni gan ddechrau ddydd Gwener 24 Medi.

Cwblhau taith gerdded 'emosiynol' i godi ymwybyddiaeth am roi organau

Mae teuluoedd wedi uno mewn taith gerdded "emosiynol" i gopa’r Wyddfa er mwyn codi ymwybyddiaeth am roi organau. Ar ddiwedd Wythnos Rhoi Organau, trefnwyd y daith gan nyrsys o Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr “i gofio am anwyliaid ac i godi ymwybyddiaeth hanfodol ar gyfer y sawl sy’n dal i ddisgwyl am roddwr.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.