Newyddion S4C

Cwblhau taith gerdded ‘emosiynol’ i godi ymwybyddiaeth am roi organau

24/09/2021
Llun o daith gerdded i godi ymwybyddiaeth o roi organau

Mae teuluoedd wedi uno mewn taith gerdded ‘emosiynol’ i gopa’r Wyddfa er mwyn codi ymwybyddiaeth am roi organau.

Ar ddiwedd Wythnos Rhoi Organau, trefnwyd y daith gan nyrsys o Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr “i gofio am anwyliaid ac i godi ymwybyddiaeth hanfodol ar gyfer y sawl sy’n dal i ddisgwyl am roddwr.” 

Yn ôl Shirley Williams, a gollodd ei llysferch, Joanne yn 40 oed, mae trafod y pwnc gyda theulu yn bwysig:

“Pan ofynnwyd i ni am roi organau, roedd yn benderfyniad hawdd iawn ei wneud. Rydym ni’n dau yn credu’n gryf mewn rhoi organau ac roeddem ni wedi trafod y pwnc yn flaenorol â Joanne ac roedd hithau’n credu’n gryf yn hynny hefyd.”

Bu farw Joanne a’i chariad mewn damwain beic modur yn 2015.

Dywedodd Shirley: “Er ei bod hi’n drychineb enfawr i ni, roeddem ni’n falch fod rhywbeth da wedi deillio o hyn a bod bywydau wedi’u hachub oherwydd Joanne.

“Roedd hi’n hyfryd gweld un o’r nyrsys yn dal llun o Joanne ar ben yr Wyddfa, teyrnged fendigedig i bawb sydd wedi rhoi rhodd o fywyd,” ychwanegodd.

Trefnwyd y daith gan dair Nyrs Arbenigol Rhoi Organau yn y gogledd.

Dywedodd Abi Roberts, un o’r nyrsys: “Roeddem ni wrth ein bodd fod cymaint o bobl a theuluoedd rhoddwyr organau wedi dymuno ymuno â ni i nodi’r wythnos arbennig hon.”

Nodwyd moment ‘emosiynol’ meddai, wrth i’r grŵp gyrraedd copa’r Wyddfa a dal lluniau o’u hanwyliaid:

“Ar waethaf y tywydd, fe wnaethom ni gyrraedd y copa ac roedd gweld aelodau teuluoedd rhoddwyr organau yn treulio eiliad arbennig yn cofio’u hanwyliaid yn brofiad emosiynol iawn.

“Y brif neges rydyn ni’n dymuno’i chyfleu yr wythnos hon yw pa mor bwysig yw siarad ag aelodau eich teulu am roi organau.”

Ychwanegodd Abi ei bod wedi gweld bod rhoi organau yn gallu cynnig cysur i deuluoedd rhoddwyr:

“Mae rhoi organau yn benderfyniad personol iawn, ni all fyth leihau galar teuluoedd sydd mewn profedigaeth, ond dywed llawer o deuluoedd, megis teulu Joanne, fod gwybod fod eu perthynas wedi helpu i achub a gweddnewid bywydau pobl eraill yn cynnig rhywfaint o gysur iddynt.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.