Cyn-Archesgob Cymru yn cadarnhau ei fod yn ymwybodol am gŵyn am 'ymddygiad meddwol' ar ôl gwadu
Cyn-Archesgob Cymru yn cadarnhau ei fod yn ymwybodol am gŵyn am 'ymddygiad meddwol' ar ôl gwadu
Mae cyn-Archesgob Cymru wedi cadarnhau ei fod e'n ymwybodol o gŵyn am ddigwyddiad diogelu meddwol o fewn i'w Esgobaeth – ddyddiau wedi iddo ddatgan nad oedd e'n gwybod am "y math yna o ymddygiad".
Rhoddodd cyn-Archesgob Cymru ateb sydd i'w weld yn gamarweiniol mewn cyfweliad wrth drafod yr hyn roedd e'n ei wybod am wendidau diogelu yn ei esgobaeth.
Fe wnaeth Andrew John ymddeol ar unwaith fel Archesgob Cymru ar Fehefin 27. Bydd yn ymddeol fel Esgob Bangor ddiwedd Awst.
Ddydd Sadwrn diwethaf, cyhoeddodd BBC Cymru adroddiad yn honni i ddyn oedd yn ceisio dod yn offeiriad ymosod yn rhywiol ar aelod o gôr Cadeirlan Bangor tra yn feddw yn 2022.
Dywedodd y dioddefwr honedig i'r dyn ymddiheuro wrthi. Ni aeth hyfforddiant y dyn i fod yn offeiriad ymhellach.
Ddydd Sul diwethaf, darlledwyd cyfweliad gyda'r cyn-Archesgob ar raglen Bwrw Golwg ar orsaf BBC Radio Cymru.
Gofynnodd cyflwynydd y rhaglen, John Roberts: "Mae tystiolaeth gan un aelod o’r côr yn dweud fod ‘na glerigwr, yn feddw, wedi bod yn yfed efo’r côr, wedi ymosod arni. A’i bod hi wedi adrodd y peth drannoeth a’i fod o wedi ymddiheuro. Oeddech chi’n gwybod am y math yna o ymddygiad?"
Atebodd yr Archesgob: “Na, na. Sa’i byth wedi gweld clerigwyr gyda’r côr neu yn y gadeirlan yn cambihafio o gwbl.
"So dw’i ddim yn siŵr beth sydd tu ôl y stori yna ond y buchedd fi wedi gweld yw pobl sydd wedi cael amser da i ymlacio ond o fewn ffiniau derbyniol."
'Dwyn i'w sylw'
Wedi darlledu'r cyfweliad, cysylltodd aelod o'r cyhoedd gyda Newyddion S4C, gan ddweud ei bod hi'n "debygol iawn" byddai Andrew John wedi bod yn ymwybodol o benderfyniad i beidio parhau a hyfforddiant dyn i fod yn offeiriad.
Yn eu barn nhw felly: "Mae'n debygol fod John yn gwybod am y diwylliant o yfed yn y Gadeirlan yn hwyr yn 2022, a'i fod yn dweud anwiredd wrth wadu."
Pan ofynnodd Newyddion S4C wrth Esgob Bangor a oedd e'n ymwybodol o'r digwyddiad honedig, ymatebodd llefarydd ar ran Cadeirlan Bangor gan ddweud:
"Gall Esgob Bangor gadarnhau i'r mater gael ei ddwyn i'w sylw yn 2022.
"Adolygodd y Tîm Diogelu Taleithiol y digwyddiad ac argymell na ddylai'r unigolyn fynychu'r Gadeirlan ac y byddai angen cytundeb diogelu iddo gael mynychu unrhyw un o addoldai'r Eglwys yng Nghymru. Gweithredwyd yr argymhellion rheiny.
"Hoffai'r Esgob egluro nad oedd yr unigolyn dan hyfforddiant ond ei fod yn hytrach yn offeiriad ordeiniwyd yn Eglwys Loegr symudodd i Gymru ac a oedd am ddychwelyd i'r offeiriadaeth.
"Ar adeg y digwyddiad, doedd dim trwydded na chaniatâd ganddo i weinyddu gan yr Eglwys yng Nghymru."
Cadarnhaodd yr Eglwys yng Nghymru hefyd: "Cynhaliwyd ymchwiliad mewnol a chyflwynwyd casgliadau a chyngor i'r Archesgob eu hystyried."
Pan ofynnwyd am esboniad ynglŷn â sylwadau'r cyn-Archesgob ar Bwrw Golwg, dywedodd llefarydd ar ran yr Eglwys yng Nghymru: "Roedd yr Esgob yn cyfeirio at glerigwyr a oedd yn gwasanaethu gyda’i drwydded neu a oedd yn gwasanaethu gyda’i ganiatâd i weinyddu.
"Nid oedd gan y person yn y digwyddiad hwn drwydded na chaniatâd."