Sut i gadw'n ddiogel yn ystod cyfnod o dywydd poeth eithafol
Sut i gadw'n ddiogel yn ystod cyfnod o dywydd poeth eithafol
Gyda rhagolygon y tywydd yn awgrymu y gallai Cymru brofi tymheredd dros 30C dros y penwythnos, sut mae cadw'n ddiogel yn y fath wres?
Mae'n debygol mai'r cyfnod yma o dywydd poeth fydd yr un hiraf eleni hyd yn hyn, gyda disgwyl i Gymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon gyrraedd y trothwy ar gyfer cofnodi ton o wres poeth (heatwave).
Er mwyn i don o wres poeth gael ei chyhoeddi gan y Swyddfa Dywydd, mae angen cyrraedd tymheredd trothwy am dri diwrnod yn olynol.
Ar gyfer y mwyafrif o Gymru, 25C ydy'r trothwy yma.
Mae cyflwynydd tywydd Newyddion S4C, Tanwen Cray wedi rhannu ei chanllaw ar gyfer cadw'n ddiogel yn ystod tywydd poeth eithafol.
"Mwy o dywydd poeth sydd ar y ffordd dros y penwythnos. Ni yn disgwyl gweld y tymheredd yn codi i ryw 33C yng Nghymru," meddai.
"Felly cadwch yn ddiogel yn y gwres, yfwch ddigonedd o ddŵr. Mae eli haul yn bwysig iawn, yn enwedig ffactor 50.
"Ac arhoswch tu fewn rhwng 11 o’r gloch y bore a 4 o’r gloch y prynhawn os chi’n gallu."
Inline Tweet: https://twitter.com/metoffice/status/1943659467100352733
Diogelwch yn y dŵr
Mae Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) wedi cyhoeddi rhybuddion melyn ar gyfer canolbarth, de a dwyrain Lloegr tan 15 Gorffennaf.
Maen nhw'n rhybuddio y gallai'r tywydd poeth gael effaith ar bobl fregus a'r gwasanaethau iechyd a gofal sy'n eu cefnogi nhw.
Daw'r cyfnod o dywydd poeth wedi cyfnod sych a phoeth yng ngorllewin a de Ewrop, gyda thanau gwyllt yn llosgi yn ne Ffrainc yn ogystal â rhannau o Sbaen a Groeg.
Mae Heddlu De Cymru wedi rhannu cyngor gan y Swyddfa Dywydd ynglŷn â chadw'n ddiogel yn y tywydd poeth.
Mae'r cyngor yn awgrymu i bobl gerdded mewn llefydd gyda digon o gysgod os yn mynd am dro.
Hefyd maen nhw'n rhybuddio i beidio gadael unrhyw berson neu anifail anwes mewn car, gan fod ceir yn gallu mynd yn boeth iawn yn sydyn.