Newyddion S4C

Ysgrifennydd Trafnidiaeth yn rhybuddio pobl i beidio rhuthro i brynu petrol

Sky News 24/09/2021
Gorsaf betrol

Mae Ysgrifennydd Trafnidiaeth San Steffan, Grant Shapps, wedi rhybuddio pobl i beidio rhuthro i brynu petrol.

Daw hyn ar ôl i gwmnïau BP a Tesco benderfynu cau rhai o’u gorsafoedd petrol ar draws y Deyrnas Unedig oherwydd diffyg cyflenwadau tanwydd a diffyg gyrwyr lorïau HGV.

O dan eu cynlluniau newydd, fe fydd BP yn darparu 80% o’u gwasanaethau arferol i 90% o’u gorsafoedd petrol, ond fe fydd gorsafoedd ar draffyrdd yn derbyn blaenoriaeth ac yn cael eu hail-lenwi gyda chyflenwadau arferol.

Dywedodd Mr Shapps y byddai’r diffyg gyrwyr lorïau yn “cael ei ddatrys yn sydyn” gan fod  mwy o brofion gyrru HGV ar gael.

“Dydy’r broblem ddim yn un newydd,” dywedodd yr ysgrifennydd wrth Sky News.

“Mae’r diffyg gyrwyr lorïau wedi bod yn drafferth am rai misoedd yn sgil y pandemig oherwydd yn ystod y cyfnod clo doedd gyrwyr methu pasio eu profion lorïau HGV a dyna beth sydd wedi arwain at y broblem yma.”

Roedd yr Ysgrifennydd Gwladol, Mr Shapps, yn gwadu honiadau mai effaith Brexit oedd tu ôl i’r argyfwng.

Mewn arolwg diweddar gan ONS, cyhoeddwyd fod 14,000 o yrwyr lorïau o’r Undeb Ewropeaidd wedi gadael y Deyrnas Unedig o fewn y flwyddyn o Mehefin 2020.

“Covid yw’r brif broblem,” dywedodd Grant Shapps.

“Mae’n broblem sydd yn effeithio’r byd i gyd ac mae Ewrop yn wynebu’r un broblem, mewn gwledydd megis Gwlad Pwyl a’r Almaen.

“Mae Brexit wedi cynnig datrysiad i’r broblem yn barod drwy sicrhau fod mwy o brofion gyrru lorïau HGV ar gael – llawer mwy nag oedd ar gael cyn y pandemig. Roedd hyn ond yn bosib oherwydd ein bod wedi gadael yr UE.”

Prysurdeb ar y pympiau petrol

Drwy gydol dydd Gwener mae prysurdeb aruthrol wedi bod mewn nifer o drefi ar hyd a lled Cymru wrth i bobl heidio i brynu petrol, er y cais gan wleidyddion i beidio gwneud hynny.

Dywedodd Jimmy Roberts, rheolwr garej yn Nolgellau, wrth raglen Newyddion S4C: "Ma' di bo reit brysur bore 'ma.

"Odd genna i ddigon o 'fuel' at fory i fod, ond natho ni redeg allan ryw deg o'r gloch bore 'ma.

"Ma' 'na lot o ffrio di bo 'ma, cwsmeriaid yn gweiddi arna ni,  ond allan o'n dwylo ni i fod yn onest.

"Dylsa fo para chwech diwrnod wrach, ond fel mae heddiw neith o bara ryw dau neu dri.

"Ond mae di bo'n digwydd i ni ers yr dau fis diwethaf, ond wan mae o allan yn y papurau newydd a 'news'", meddai.

Galw ar lywodraeth y DU i gael gwared â nwy’n raddol erbyn 2035

Yn y cyfamser, mae cwmnïau mawr megis BT, Nestle, Thames Water a Co-op yn galw ar Lywodraeth y DU i ymrwymo i bŵer net-sero a dod â'r ddibyniaeth ar nwy i ben erbyn 2035.

Mewn llythyr i'r llywodraeth, dywedodd y cwmnïau fod yr wythnos ddiwethaf wedi "dangos yr heriau o ddibynnu ar nwy sydd yn cael ei fewnforio". Mae'r llythyr hefyd yn cydnabod byddai'r newidiadau yn gofyn am "fuddsoddiad ar raddfa uchel", ond byddai trethdalwyr mewn "sefyllfa well".

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth fod nwy yn "chwarae rhan allweddol o gadw ein system drydanol yn ddiogel a chadarn", ond eu bod yn anelu i "gyflwyno dyfeisiadau carbon isel y byddai'n gallu gwneud yr un swydd".

Darllenwch y stori’n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.