Newyddion S4C

Taid sydd wedi ei gyhuddo o lofruddo ei ŵyr yn dweud bod mam y plentyn yn colli ei thymer yn gyflym

Taid sydd wedi ei gyhuddo o lofruddo ei ŵyr yn dweud bod mam y plentyn yn colli ei thymer yn gyflym

Mae taid sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio ei ŵyr dwy oed yn Sir y Fflint, wedi dweud yn yr achos llys fod mam y plentyn yn colli ei thymer yn gyflym, ac y byddai'n bwrw ei mab ar gefn ei ben.   

Mae Michael Ives, 47 oed a'i wraig Kerry Ives, 46 oed wedi eu cyhuddo o lofruddio Ethan Ives-Griffiths. 

Roedd yn byw gyda nhw yn eu cartref yn Garden City, cyn ei farwolaeth ym mis Awst 2021.

Tra'n rhoi tystiolaeth yn Llys y Goron Yr Wyddgrug, dywedodd Michael Ives fod ei ferch Shannon Ives, sy'n 28 oed, yn arfer bwrw ei mab, wedi i'r ddau symud i'r cartref teuluol yn gynharach y flwyddyn honno. 

“Roedd hi'n colli ei thymer yn gyflym,” meddai. 

Honnodd y byddai ei ferch yn bwrw ei mab yng nghefn ei ben, yn ogystal â'i goesau a'i ben-ôl  

“Weithiau roedd hynny yn digwydd cwpwl o weithiau'r dydd, roedd yn amrywio," meddai.

Ychwanegodd: “Byddai Ethan yn sefyll yno, yn edrych arni hi, a dechrau chwerthin."

Yn ôl Michael Ives, byddai'r ymateb hwnnw gan ei ŵyr yn cythruddo ei ferch .

Dywedodd iddo ddweud wrth ei ferch na ddylai fwrw Ethan, ond iddi hi ddweud wrtho i "feindio ei fusnes".

Ar ran yr amddiffyniad, holodd David Elias KC, a oedd e erioed wedi bwrw Ethan.

“Naddo,” atebodd. 

Magwraeth 

Eglurodd Michael Ives wrth y llys fod ei fagwraeth yn Wolverhampton yng nghanolbarth Lloegr yn un “wael.”

Dywedodd iddo gyfarfod â'i wraig pan roedd yn 18 oed, ac iddi roi genedigaeth i'w merch hynaf Shannon, tua blwyddyn yn ddiweddarach. 

Clywodd y llys i'r cwpl symud rhwng Wolverhampton a gogledd Cymru cyn ymgartrefu yn Garden City yn 2019. 

Cafodd y rheithgor wybod fod Michael Ives wedi cael rhybudd gan yr heddlu, wedi honiadau iddo ymosod ar ei wraig yn 2009.

“Cawsom ffrae, ac fe wnes i geisio cicio'r bwrdd coffi, ond methais, ac fe wnes i ddal ei choes,” meddai. 

Dywedodd nad oedd erioed wedi taro yr un o'i blant.

Clywodd y llys fod Ethan wedi marw mewn ysbyty, ddeuddydd ar ôl i ambiwlans gael ei alw i'r tŷ. 

Mae honiadau iddo gael ei gamdrin a'i esgeuluso yn ystod ei gyfnod yng nghartref ei Daid a Nain. 

Mae Michael a Kerry Ives, o Ffordd Kingsley, Garden City, yn gwadu llofruddio eu hŵyr, a hefyd yn gwadu achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn ac ymddwyn yn greulon tuag at berson o dan 16.

Mae merch y cwpl, Shannon Ives, o Nant Garmon, yr Wyddgrug  yn gwadu iddi achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn, ac yn gwadu iddi ymddwyn yn greulon tuag at berson o dan 16 oed. 

Mae'r achos yn parhau. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.