Y cyhoeddwr a'r ymgyrchydd Robat Gruffudd wedi marw'n 83 oed
Mae’r awdur, cyhoeddwr a’r ymgyrchydd iaith Robat Gruffudd wedi marw yn 83 oed.
Yn ôl datganiad gan Y Lolfa, y wasg a sefydlodd yn 1967, bu farw ddydd Iau yn dilyn cyfnod o salwch.
Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd y wasg: "Bu’n ymgyrchydd brwd dros y Gymraeg, o ddyddiau Pont Trefechan ac Achos yr Wyth."
Roedd y wasg wedi ei lleoli yn Nhal-y-bont, Ceredigion, ac fe'i sefydlodd dair blynedd ar ôl cyd-sefydlu’r cylchgrawn dychanol Lol ym Mangor gyda’i ffrind, y diweddar Penri Jones.
Mewn amser fe ddaeth y wasg yn un o brif weisg Cymru.
Fe gafodd Robat Gruffudd ei eni yn 1943 yn Llwyn-y-pia, y Rhondda, yn fab i’r Eifftiolegydd Kate Bosse-Griffiths a’r Athro John Gwyn Griffiths.
Cafodd ei fagu yn Abertawe.
Roedd yn disgrifio’i hun fel “Cymro, Iddew ac Almaenwr”.
Roedd ei fam wedi ffoi o’r Almaen Natsïaidd a’i fam-gu Käthe Bosse wedi ei llofruddio yng ngwersyll crynhoi Ravensbrück, i’r gogledd o Berlin.
Fe aeth i Goleg y Brifysgol, Bangor, ond gwrthododd dderbyn ei radd, gan ddweud o’r llwyfan fod awdurdodau’r coleg wedi “gwadu’r iaith”.
Dywedodd yn ei ddyddiadur nad oedd "dal ddim yn siŵr o'n i'n gall" ond ei fod yn "benllanw i ddwy flynedd a mwy o frwydro aflwyddiannus dros statws i'r iaith yn y coleg".
'Ymgyrchydd brwd dros y Gymraeg'
Roedd ym mhrotest enwog Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar Bont Trefechan yn 1963, un o ddigwyddiadau allweddol y mudiad dros hawliau’r Gymraeg.
Newidiodd ei enw yn 1966 o Robert Paul Griffiths i Robat Pawl Gruffudd.
Fe aeth cylchgrawn Lol i ddyfroedd cyfreithiol dyfnion yn Eisteddfod Awst 1967 ar ôl cyhoeddi llun o fenyw noeth gyda'r geiriau Sensor a 'Bu Cynan Yma' - cyfeiriad at yr Archdderwydd Albert Evans-Jones.
Bu'n rhaid tynnu'r dudalen enllibus a thalu £50 i goffrau'r Eisteddfod.
Roedd yn un o arweinwyr y mudiad Cymuned, ac roedd ar fwrdd Cwmni Dyddiol Cyf, a oedd am sefydlu papur dyddiol Cymraeg, Y Byd.
Roedd hefyd yn un o sylfaenwyr Dyfodol i’r Iaith, y mudiad pwyso sydd am sefydlu corff lled braich o’r llywodraeth i arwain cynllunio iaith yng Nghymru.
Llwyddiannau llenyddol
Fe enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, yn 1986 a 2012, am ddwy o’i nofelau, Y Llosgi ac Afallon, ac roedd nofel arall, Crac Cymraeg, ar restr fer Llyfr y Flwyddyn ym 1996.
Cyhoeddodd dair nofel arall a dwy gyfrol o farddoniaeth.
Fe gyhoeddodd ei ddyddiaduron, Lolian, yn 2016, a’r nofel Gobaith Mawr y Ganrif yn 2024.
Yn 2007, enillodd wobr Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru am gyfraniad oes i’r byd llyfrau Cymraeg.
Yn 2022, fe gafodd ef a’i wraig Enid eu dewis yn dywyswyr ar Barêd Gŵyl Dewi Aberystwyth i gydnabod eu cyfraniad i gyhoeddi ac i’r gymuned.
Mae’n gadael ei wraig Enid, a fu’n athrawes yn Nhal-y-bont cyn gweithio i’r Lolfa.
Roedd yn frawd hŷn i’r ymgyrchydd iaith Heini Gruffudd, ac mae ei feibion Garmon Gruffudd a Lefi Gruffudd yn parhau i reoli gwasg Y Lolfa.
Mae ei fab hynaf, Einion, yn gweithio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Mae hefyd yn gadael pump o wyrion.
