Dynes 35 oed wedi marw o drawiad gwres wrth gerdded yn Eryri

Sophie Goodyer-Bird

Mae cwest wedi clywed bod dynes 35 oed o Birmingham wedi marw ar fynydd yn Eryri ar ôl dioddef trawiad gwres, neu heatstroke.

Bu farw Sophie Goodyer-Bird, a oedd yn gweithio yn y maes harddwch, wrth gerdded ar Yr Wyddfa ar ddydd Gwener 10 Gorffennaf gyda’i ffrindiau Sophie a Keane.

Clywodd y cwest yng Nghaernarfon ddydd Iau bod y tri wedi gadael Birmingham am 03.00 y bore hwnnw er mwyn teithio i Ben y Pass.

Fe wnaeth y tri gyrraedd y maes parcio yno toc wedi 06.00, gyda’r menywod yn dechrau ar eu taith i fyny’r Wyddfa ar Lwybr PYG.

Fe wnaeth Keane ddilyn Llwybr Crib Goch.

Clywodd y cwest nad oedd unrhyw arwyddion bod Ms Goodbyer-Bird yn teimlo’n sâl y bore hwnnw.

Fe wnaeth y ddwy fenyw gyrraedd copa'r Wyddfa am 09.45, lle gwnaethon nhw dynnu lluniau ac aros am ryw bum munud.

Blinedig

Ar ei ffordd i lawr y mynydd, clywodd y cwest fod Ms Goodyer-Bird wedi dechrau teimlo'n flinedig iawn.

Roedd ei ffrind Sophie wedi ei hannog i barhau i gerdded, gan nad oedd unrhyw le i gysgodi rhag yr haul ar y llwybr.

Tua 15 munud i ffwrdd o ddiwedd y daith, fe ddisgynnodd Ms Goodyer-Bird ond fe lwyddodd i godi a pharhau i gerdded.

Ond yn ôl ei ffrind Sophie, roedd Ms Goodyer-Bird wedi dechrau “cerdded fel ei bod yn feddw”.

Fe eisteddodd Ms Goodyer-Bird ar y llwybr, gan ddweud nad oedd yn gallu codi.

Fe wnaeth Sophie ffonio Keane a oedd eisoes wedi cyrraedd Pen y Pass, er mwyn gofyn iddo ddod â chan o ddiod Coke i Ms Goodbyer-Bird.

Yna, am 12.23, fe wnaeth Sophie ffonio’r Tîm Achub Mynydd am gymorth.

Erbyn hyn, roedd dwylo Ms Goodyer-Bird wedi dechrau mynd yn oer, ac roedd hylif brown yn dod allan o’i thrwyn.

Fe wnaeth cyflwr Ms Goodbyer-Bird waethygu'n sydyn a daeth yn anymwybodol. 

Bu farw yn fuan wedyn, er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys i’w hachub dros gyfnod o bron i awr.

Cafodd ei marwolaeth ei chadarnhau am 14:18.

Archwiliad post mortem

Dywedodd y patholegydd Dr Muhammad Zain Mehdi o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fod archwiliad post-mortem wedi ei arwain i’r casgliad mai trawiad gwres drwy ymdrech grofforol oedd achos y farwolaeth.

Daeth Crwner Cynorthwyol Gogledd Orllewin Cymru, Sarah Riley, i'r casgliad mai marwolaeth o achosio naturiol oedd hon.

Yn ôl ei mam Christine Bird, roedd Ms Goodyer-Bird yn “edrych ymlaen at yr her a chyrraedd y copa”.

Dywedodd nad oedd ganddi unrhyw bryderon am iechyd na ffitrwydd ei merch, gan ei bod wedi bod yn cerdded pellteroedd hir ac yn cicbocsio.

“Roedd Sophie yn fam ymroddedig, yn ferch annwyl ac yn chwaer anhygoel,” meddai.

“Y diwrnod y bu Sophie farw, diffoddodd y golau yn ein teulu.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.