Cwest yn clywed fod dyn ifanc o Lundain wedi boddi mewn llyn ger yr Wyddfa
Mae cwest wedi clywed bod dyn 20 oed o Lundain wedi marw ar ôl boddi mewn llyn yn Eryri ym mis Medi.
Bu farw Mahammed Naim Islam, a oedd yn fyfyriwr busnes ym Mhrifysgol Westminster, yn Llyn Glaslyn ger Yr Wyddfa.
Clywodd y cwest yng Nghaernarfon ddydd Iau fod Mr Islam a’i ddau ffrind Muhammad Nahid Rahman a Muhammad Saihnur Rahman wedi dechrau cerdded i fyny’r Wyddfa ar ddydd Sadwrn 26 Medi.
Yn ôl PC Charlotte Bowen o Heddlu Gogledd Cymru, doedd Muhammad Nahid Rahman ddim eisiau parhau gyda’r daith felly fe aeth yn ôl i’r AirBnB.
Roedd Mr Islam a Muhammad Saihnur Rahman wedi cario ymlaen i’r copa, meddai, gan stopio yn Llyn Glaslyn ar y ffordd i lawr.
Ond roedd Mr Islam wedi mynd i drafferthion, gyda’i ffrind yn cynnig brigyn iddo er mwyn ceisio ei achub gan nad oedd yr un ohonynt yn gallu nofio.
Yn fuan wedyn roedd Mr Islam wedi diflannu o dan y dŵr ac ni wnaeth Muhammad Saihnur Rahman weld ei ffrind eto ar ôl hynny.
Dywedodd PC Bowen fod Mr Rahman wedi ceisio ffonio 999, ond nad oedd wedi llwyddo i wneud hynny oherwydd diffyg signal.
Yn y cyfamser, roedd Heddlu Gogledd Cymru wedi derbyn galwad ffôn a oedd wedi ei adael heb ei chwblhau ('abandoned') gan unigolyn yn ardal Llyn Glaslyn.
Yn y pen draw cafodd hofrennydd Tîm Achub Mynydd Llanberis ei alw i’r lleoliad y noson honno ac fe lwyddodd i chwilio’r ardal o’r awyr.
Ar ôl dwy awr o chwilio, cafodd y gwaith ei ohirio tan y bore.
Y bore wedyn, ar ddydd Sul 27 Medi, cafodd corff Mr Islam ei ddarganfod gan Dîm Chwilio Tanddwr.
Cafodd ei farwolaeth ei chadarnhau gan Dr Ben Heath am 12.39 y diwrnod hwnnw.
Llygad dyst
Clywodd y cwest dystiolaeth gan Lee-Junior Pellick a oedd yn dyst i’r digwyddiad.
Roedd Mr Pellick yn cerdded i lawr yr Wyddfa ar Lwybr y Mwynwyr pan welodd ddau ddyn ifanc yn neidio i mewn ac allan o’r dŵr yn Llyn Glaslyn islaw.
Dywedodd ei fod wedi sylwi fod un o’r dynion wedi rhoi ei ben o dan y dŵr.
I ddechrau roedd wedi cymryd mai chwarae o gwmpas oedd y dyn ifanc, ond sylweddolodd ei fod yn dechrau profi anhawsterau.
Daeth i’r amlwg nad oedd yr un o’r dynion yn gallu nofio, meddai, ac felly fe redodd i lawr i’r llyn i geisio eu cynorthwyo.
Ond wrth iddo gamu i mewn i’r dŵr, dywedodd fod Mr Islam wedi diflannu o dan y dŵr tua 4 metr i ffwrdd o’r lan lle’r oedd y dŵr yn dyfnhau’n sydyn.
Roedd grŵp arall o bobl hefyd wedi ceisio cynorthwyo Mr Islam, meddai, ond ni lwyddodd unrhyw un i’w gyrraedd.
Dywedodd y patholegydd Dr Mark Atkinson o Ysbyty Glan Clwyd fod archwiliad post mortem wedi ei arwain i’r casgliad mai boddi oedd achos y farwolaeth.
Daeth Crwner Cynorthwyol Gogledd Orllewin Cymru, Sarah Riley, i'r casgliad mai marwolaeth ddamweiniol oedd hon.
‘Dyn ifanc arbennig’
Wrth roi teyrnged iddo yn dilyn ei farwolaeth, dywedodd teulu Mr Islam ei fod yn “ddyn ifanc arbennig gyda dyfodol disglair o'i flaen”.
“Roedd yn fab ymroddedig, yn frawd cariadus ac yn ffrind annwyl, ac fe wnaeth ei garedigrwydd a’i gymeriad gyffwrdd â bywydau pawb oedd yn ei adnabod,” meddai ei deulu.
“Mae ei farwolaeth wedi torri calonnau ei deulu, ei ffrindiau a’r gymuned ehangach.
“Bydd yn cael ei gofio am y llawenydd a ddaeth i fywydau eraill, yr atgofion a greodd, a’r effaith gadarnhaol a gafodd ar fywydau’r rhai a oedd yn ddigon ffodus i’w adnabod.
“Bydd Mahammed yn cael ei golli’n fawr a’i gofio’n annwyl gan bawb a oedd yn ei adnabod.”