
E-sgwteri: Cymraes yn galw am reolau mwy llym ar ôl goroesi ffrwydrad
E-sgwteri: Cymraes yn galw am reolau mwy llym ar ôl goroesi ffrwydrad
Mae merch o Frynmawr ym Mlaenau Gwent yn galw am reolau mwy llym o amgylch e-sgwteri ar ôl ffrwydrad difrifol mewn clwb nos ym Mharis.
Roedd Ffion Price-Dunn ar ei pharti plu pan gafodd ei bwrw i’r llawr yn anymwybodol wrth i ddarnau o’r wal gwympo ar ei phen ym mis Gorffennaf 2024.
Y gred yw fod y ffrwydrad wedi’i achosi gan fatri e-sgwter diffygiol oedd ynghlwm wrth bwynt gwefru ar bedwerydd llawr y clwb nos.
Cafodd ei chludo i’r ysbyty ym Mharis gyda chlwyfau dwfn yn ei hwyneb a’i phen, a wnaeth arwain at lid ar yr ymennydd.
“Dw i ddim yn gallu cofio unrhyw beth o’r foment yna; yr unig beth ’dw i’n gallu cofio yw edrych i’r dde a gweld gwaed o’m hamgylch i mewn cylch,” meddai Ffion wrth raglen Y Byd ar Bedwar.
Fe dreuliodd bron i bythefnos yn yr ysbyty ar ôl cael llawdriniaeth frys i achub ei bywyd. Ar ôl dychwelyd adref, roedd y daith i wella yn araf a phoenus.
“O’n i methu gweithio, methu gyrru, wedi colli pwysau, oedd fy ngolwg i wedi mynd. Oedd popeth wedi newid i fi.”

Mae Ffion wedi gallu gwella o’i hanafiadau ond mae’r ddamwain wedi bwrw ei hyder ac mae hi am weld newid yn y ffordd mae e-sgwteri yn cael eu trafod a’u plismona.
Mae hi’n galw ar gwmnïau sy’n eu gwerthu i gymryd cyfrifoldeb dros ddiogelwch ac i bobl fod yn fwy gwyliadwrus wrth eu prynu.
“Dw i eisiau i bobl eraill wybod beth sy’n gallu mynd yn anghywir gyda e-sgwteri.. achos doedden i ddim yn gwybod y risgs o’u cwmpas nhw. Ro ni bach yn naïve mewn ffordd. ’Dw i ddim eisiau i neb arall i fynd trwy be fi ’di bod trwy.”

Er bod modd rhentu e-sgwteri mewn rhai dinasoedd yn Lloegr, yma yng Nghymru mae eu defnyddio yn anghyfreithlon oni bai eich bod ar dir preifat.
Er hynny, mae eu defnydd yn boblogaidd ac mae tanau batris lithiwm, sy’n gallu cael eu hachosi gan e-sgwteri, ar gynnydd.
Yn y pum mlynedd ddiwethaf, fe wnaeth y gwasanaethau tân gofnodi dros 200 o’r math hyn o danau. Ac o’r rheiny, fe gafodd 30 o bobol eu hanafu.

Yn ôl Katie Meese o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, mae cynnydd o 70% wedi bod mewn tanau batris lithiwm yn y ddwy flynedd ddiwethaf.
“Maen nhw yn wahanol i danau eraill achos o’r tymheredd ma’ nhw’n creu. Mae’r tymheredd yn gallu mynd dros 600 gradd yn glou iawn. Ma’ nhw yn gallu achosi lot o niwed.”
‘Dychryn am fy mywyd’
Cafodd tŷ Charlotte Murphy yng Nghaerau, Caerdydd, ei ddinistrio’n llwyr gan dân wedi’i achosi gan e-sgwter ym mis Ebrill 2025.
Bu’n rhaid i’r saith person oedd yn y tŷ dderbyn triniaeth yn yr ysbyty, gan gynnwys merch 10 oed Charlotte oedd wedi dioddef niwed i’w hysgyfaint.
“Ro’n i wedi dychryn am fy mywyd,” meddai wrth ddychwelyd i’w chartref am y tro cyntaf mewn saith mlynedd ar raglen Y Byd ar Bedwar.

Mae Charlotte eisiau gweld gwelliannau i ddiogelwch batris e-sgwteri sy’n cael eu gwerthu, ar-lein neu yn y siopau.
“Ti ddim yn disgwyl i rywbeth fel 'na ddigwydd yn eich tŷ chi. Byswn ni ddim yn teimlo'n ddiogel yn cael e-sgwter yn fy nhŷ eto.
“Dw i’n lwcus i fod yn fyw i fod yn onest - dyna pa mor ddrwg oedd y tân.”
Yn ôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig, maen nhw’n gweithio i wneud trafnidiaeth gwyrdd yn fwy hygyrch i bawb, gyda threialon yn Lloegr yn eu helpu i lunio unrhyw reolau yn y dyfodol.
Maen nhw hefyd yn cryfhau deddfau diogelwch batris ac yn cymryd camau mewn porthladdoedd i rwystro cynnyrch peryglus rhag cyrraedd y farchnad.
Gwyliwch Y Byd ar Bedwar: ‘E-sgwteri a’u Peryglon’ nos Lun am 20:00 ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.