Newyddion S4C

Cyhuddo aelod o reithgor mewn cysylltiad â chwalu achos trywanu ysgol

Christopher Elias

Mae dyn fu'n aelod o'r rheithgor mewn achos o drywanu ddaeth i ben yn ddisymwth wedi'i gyhuddo o ymddygiad oedd wedi ei wahardd tra'n gwasanaethu ar reithgor. 

Mae'r cyhuddiad yn ymwneud â chwalu achos cyntaf merch ym mis Hydref y llynedd a oedd wedi ei chyhuddo o drywanu dwy athrawes a disgybl yn Ysgol Dyffryn Aman, Rhydaman, Sir Gaerfyrddin. 

Fe fu Christopher Elias, 45 oed, o Waunceirch, Castell Nedd Port Talbot, o flaen ynadon Caerdydd ddydd Llun.

Fe glywodd y llys ei fod yn debygol o bledio'n ddieuog. 

Yn dilyn ail achos llys ym mis Ebrill, fe gafodd merch 14 oed nad oes modd cyhoeddi ei henw o achos ei hoedran, ei dedfrydu i 15 mlynedd o garchar am geisio llofruddio'r athrawon Fiona Elias, Liz Hopkin a disgybl yn Ysgol Dyffryn Aman.

Mae disgwyl i wrandawiad nesaf Christopher Elias gael ei gynnal yn Llys y Goron Caerdydd ar 28 Gorffennaf eleni.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.