Newyddion S4C

Plaid Cymru a’r Blaid Werdd yn creu cytundeb etholiadol

24/09/2021
Bae Caerdydd Senedd Cymru

Mae Plaid Cymru â Phlaid Werdd Cymru wedi cyhoeddi eu bod nhw'n ffurfio cynghrair etholiadol yng Nghaerdydd ar gyfer yr Etholiadau Lleol Cymru yn 2022. 

Mae cyngor Caerdydd wedi'i redeg gan Lafur ers 2012, gyda'r Cynghorydd Huw Thomas wrth y llyw fel arweinydd ers 2017. 

Nid yw Plaid Werdd Cymru wedi sicrhau sedd ar y cyngor o'r blaen, lle mae Plaid Cymru wedi sicrhau tair sedd yno tan i'r aelodau adael i ymuno â phlaid Propel. 

Mewn datganiad ddydd Gwener, cyhoeddodd Plaid Cymru y bydd y gynghrair yn gweithio gyda’i gilydd fel "plaid unedig" ar draws wardiau’r ddinas. 

Dywedodd Anthony Slaughter, arweinydd Plaid Werdd Cymru: "Mae cydweithio ag eraill i ddod â'r gynghrair gyffrous hon at ei gilydd cyn etholiadau Cyngor Caerdydd y flwyddyn nesaf wedi bod yn ysbrydoledig.

"Ar adeg o Argyfwng Hinsawdd ac Amgylcheddol ac anghydraddoldeb cynyddol, mae gwleidyddiaeth 'Busnes fel Arfer' yn methu ein cymunedau ar bob lefel o lywodraeth.

"Mae Plaid Werdd Cymru o'r farn y dylai pŵer a phenderfyniadau gael eu datganoli bob amser i'r lefel leol fwyaf priodol, a chredwn y bydd y gynghrair hon ar feysydd tir cyffredin yn rhoi cyfle i bleidleiswyr Caerdydd bleidleisio dros newid gwirioneddol a chynrychiolaeth gymunedol wirioneddol.

"Mae'r heriau sy'n wynebu ein prifddinas yn rhai brys ac mae angen ffyrdd newydd o feddwl. Y wleidyddiaeth gydweithredol 'aeddfed' hyn yw'r newid sydd ei angen."

Mae gwaith bellach ar y gweill i sefydlu rhestri ar y cyd o ymgeiswyr ledled y ddinas. 

'Cydnabod tir cyffredin' 

Dywedodd Rhys ab Owen AS o Blaid Cymru, sydd wedi cymryd rhan mewn trafodaethau i ffurfio'r gynghrair: "Mae Plaid Cymru yng Nghaerdydd yn falch o fod yn rhan o'r cyhoeddiad hwn am gynghrair wleidyddol newydd yn ein prifddinas.

"Y dewis etholiadol newydd hwn yw'r newid sydd ei angen ar Gaerdydd, gan gynnig llais gwleidyddol newydd i gymunedau drwy sefyll o dan un enw ar y cyd ar y papur pleidleisio.

"Mae hyn yn ymwneud â chydnabod tir cyffredin rhwng ein pleidiau a'n hymgyrchwyr, a chydweithio i wneud gwleidyddiaeth mewn ffordd newydd a mwy cydweithredol, gan gydnabod yr angen am rym gwleidyddol newydd a fydd yn diogelu ac yn meithrin popeth sy'n dda am Gaerdydd, ac a fydd yn ateb her yr argyfwng hinsawdd a'r gor-ddatblygiad di-hid a di-wyneb a welwn mewn rhannau o'r ddinas."

Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei datgelu mewn lansiad ymgyrch llawn yn ddiweddarach yn y flwyddyn, ynghyd â chyhoeddiadau ymgeiswyr.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.