Paratoi am ddiwrnod i’r brenin gyda Gŵyl Elvis ar ei newydd wedd
Bydd Gŵyl Elvis yn cael ei chynnal ar ei newydd wedd ym Mhorthcawl eleni gyda chyfyngiadau Covid-19.
Mae’r ŵyl flynyddol sy’n dathlu bywyd y brenin Roc a Rôl, Elvis Presley, yn uchafbwynt yng nghalendr blynyddol ei gefnogwyr pennaf.
Ar ôl gorfod gohirio’r digwyddiad llynedd, bydd yr ŵyl yn para tri diwrnod yn y Grand Pavillion ym Mhorthcawl eleni gan ddechrau ddydd Gwener 24 Medi.
Yn unol â chanllawiau Covid-19 mewn theatrau ar draws Cymru, bydd nifer o gyfyngiadau mewn lle yn yr ŵyl eleni.
Bydd y theatr yn cael ei lanhau rhwng sioeau a bydd hi ond yn bosib mynychu trwy archebu tocyn o flaen llaw.
Mae Heddlu De Cymru wedi gofyn i bobl fod yn ofalus ac “yfed yn gyfrifol” dros y penwythnos.
Dywedodd yr Arolygydd Plismona Lleol, Mark Davies: "Bydd ein swyddogion o gwmpas y lle, ynghyd â cheffylau a chŵn yr heddlu, i gadw pawb yn ddiogel dros y tri diwrnod.
“Ein blaenoriaeth yw cadw pawb yn ddiogel a byddwn yn cymryd pa gamau bynnag sydd eu hangen er mwyn gwneud hynny. Fy neges i bawb yw mwynhewch eich hunain, ond gwnewch hynny'n gyfrifol – diolch yn fawr iawn.”
Llun: Elvis Porthcawl [Twitter]