Newyddion S4C

Corff yr Arglwydd Lipsey wedi ei ganfod yn Afon Gwy

 David Lipsey

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi fod corff yr Arglwydd David Lipsey, oedd yn 77 oed, wedi ei ganfod yn Afon Gwy.

Mewn datganiad ddydd Iau dywedodd y llu: “Derbyniodd Heddlu Dyfed-Powys adroddiad ynghylch diogelwch dyn a welwyd ddiwethaf yn nofio yn Afon Gwy, Y Clas-ar-Wy.

"Yn dilyn archwiliad aml-asiantaeth ar Orffennaf 1af, yn anffodus, gallwn gadarnhau bod corff yr Arglwydd David Lipsey wedi’i ddarganfod.

"Mae ei berthnasau agosaf wedi cael gwybod ac mae ein meddyliau gyda nhw yn ystod yr amser anodd hwn.

“Maent wedi gofyn am barchu eu preifatrwydd.”

Mae Syr Keir Starmer wedi rhoi teyrnged i’r Arglwydd Lipsey yn dilyn y newyddion am ei farwolaeth. 

Dywedodd y Prif Weinidog: “Roedd David yn cael ei garu a’i barchu gan gynifer. Boed yn ei flynyddoedd cynnar fel ymchwilydd a chynghorydd, neu ei chwarter canrif yn Nhŷ’r Arglwyddi, gweithiodd yn ddiflino dros yr hyn yr oedd yn credu ynddo.

“Bydd colled fawr ar ei ôl gan bawb a oedd yn ffodus i’w adnabod, yn y Senedd a thu hwnt. Mae fy meddyliau gyda’i wraig, Margaret, a’u teulu a’u ffrindiau.”

Roedd yr Arglwydd Lipsey wedi ei benodi yn Arglwydd am oes yn 1999, ac roedd wedi eistedd ar feinciau’r Blaid Lafur yn Nhŷ’r Arglwyddi.

Mae wedi ei gydnabod am ei gyfraniadau eang i fywyd cyhoeddus, newyddiaduraeth a chwaraeon.

Fe wasanaethodd fel cynghorydd gwleidyddol i Anthony Crosland a Rhif 10 Downing Street ac roedd yn newyddiadurwr, gan dderbyn Gwobr Arbennig Orwell ym 1997 am ei waith gyda The Economist.

Pan oedd yn ymgynghorydd i James Callaghan fe fathodd y termau ‘Winter of Discontent’ a ‘New Labour’.

Roedd ganddo hefyd angerdd dros rasio milgwn a gweithiodd i gael cŵn wedi’u hailgartrefu yn hytrach na’u difa ar ddiwedd eu gyrfaoedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.