Cyn-arlywydd Catalwnia yn cael ei arestio'n Yr Eidal

Mae cyn-arlywydd a'r ymgyrchydd dros annibyniaeth i Gatalwnia, Carles Puigdemont, wedi cael ei arestio yn Yr Eidal.
Daw hyn pedair blynedd ers i Mr Puigdemont ffoi o Sbaen ar ôl i'r llywodraeth yn Madrid gyhoeddi fod y refferendwm annibyniaeth i Gatalwnia yn "anghyfansoddiadol".
Roedd disgwyl i Puigdemont ymddangos o flaen llys ddydd Gwener mewn gwrandawiad a allai ei weld yn gorfod dychwelyd yn ôl i Sbaen ar gyhuddiad o annog gwrthryfel yno.
Yn ôl Al Jazeera, roedd yr arweinydd o Gatalwnia, sydd wedi byw yng Ngwlad Belg ers y refferendwm yn 2017, wedi cael ei gadw'n y ddalfa yn Alghero, Sardinia.
Ar Twitter, dywedodd pennaeth staff Mr Puigdemont, Josep Lluis Alay: "“Ar ôl iddo gyrraedd maes awyr Alghero, cafodd ei arestio gan heddlu’r Eidal.
"Yfory [dydd Gwener], fe fydd yn ymddangos o flaen barnwyr llys apêl Sassari, a fydd yn penderfynu a ddylid gadael iddo fynd neu ei estraddodi”.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Chatham House, Llundain