Lluniau o Michael Jackson a Bill Clinton ymysg dogfennau Jeffrey Epstein

Llun: Adran Gyfiawnder yr Unol Daleithiau
Michael Jackson a Jeffrey Epstein

Mae lluniau o Michael Jackson a chyn-arlywydd yr Unol Daleithiau, Bill Clinton, wedi eu cyhoeddi fel rhan o ryddhau dogfennau'r troseddwr rhyw Jeffrey Epstein.

Bu farw'r pedoffeil a'r biliwnydd mewn carchar yn 2019.

Roedd rhaid i Adran Gyfiawnder yr Unol Daleithiau gyhoeddi pob ffeil sy'n gysylltiedig â'i hymchwiliad i Epstein erbyn 19 Rhagfyr er mwyn cydymffurfio â therfyn amser cyfreithiol.

Cafwyd hyd i Epstein yn farw yn ei gell mewn carchar ffederal ym Manhattan, Efrog Newydd, ym mis Awst 2019 tra'r oedd yn aros am ei achos llys ar gyhuddiadau o fasnachu menywod at ddibenion rhywiol.

Roedd aros yn hir am ryddhau'r dogfennau, sydd yn cynnwys lluniau, fideos a dogfennau ymchwilio wedi i Donald Trump arwyddo deddfwriaeth fis diwethaf i sicrhau bod y dogfennau'n cael eu rhyddhau.

Mae sawl person enwog wedi eu cynnwys yn rhan gyntaf y dogfennau - gan gynnwys cyn-Arlywydd America Bill Clinton, Andrew Mountbatten-Windsor a'r cerddorion Mick Jagger a Michael Jackson.

Nid yw cael eich enwi na chynnwys eich llun yn y ffeiliau yn arwydd o gamwedd (wrongdoing). Mae llawer o'r rhai sydd wedi eu cynnwys yn y ffeiliau neu mewn datganiadau blaenorol sy'n gysylltiedig ag Epstein wedi gwadu unrhyw gamwedd.

'Golygu'

Ymysg y cannoedd o ddogfennau a gafodd eu rhyddhau nos Wener mae llawer sydd wedi eu golygu, gan gynnwys datganiadau'r heddlu, adroddiadau ymchwil a lluniau.

Mae dros 100 o dudalennau mewn cysylltiad gydag un ymchwiliad wedi eu gorchuddio'n llwyr.

Mae swyddogion yn gallu golygu deunydd er mwyn diogelu gwybodaeth am y dioddefwyr, fel sydd wedi ei amlinellu yn y ddeddfwriaeth ar gyfer rhyddhau'r dogfennau.

Hefyd mae unrhyw ddeunydd sydd yn gysylltiedig ag achos byw yn gallu cael eu golygu, ond mae angen i swyddogion nodi rheswm dros wneud hyn, sydd heb ddigwydd eto.

Dywedodd y Dirprwy Twrnai Cyffredinol Todd Blanche fod yr adran yn rhyddhau "cannoedd o filoedd o dudalennau" ddydd Gwener a'i fod yn disgwyl i "gannoedd o filoedd yn rhagor" gael eu rhyddhau dros yr wythnosau nesaf.

Ychwanegodd fod yr adran yn gwirio pob tudalen o ddeunydd yn drylwyr i sicrhau bod "pob dioddefwr - eu henw, eu hunaniaeth, eu stori, i'r graddau y mae angen ei diogelu - wedi'i ddiogelu'n llwyr". 

Mae honno'n broses, dywedodd, sy'n cymryd amser.

Mae llinell amser rhyddhau'r deunydd ychwanego yn aneglur, ac mae gwleidyddion ar y ddwy ochr wedi mynegi rhwystredigaeth.

Mae Democratiaid gan gynnwys y Cyngreswr Ro Khanna wedi bygwth gweithredu yn erbyn aelodau'r adran gyfiawnder, gan gynnwys uchelgyhuddo neu erlyniad posibl dros yr oedi.

Arweiniodd Khanna gyda'r Cyngreswr Gweriniaethol Thomas Massie i orfodi pleidlais ar Ddeddf Tryloywder Ffeiliau Epstein, gan herio Arlywydd yr Unol Daleithiau Donald Trump a anogodd ei blaid i bleidleisio yn erbyn y mesur ar y dechrau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.