David Walliams yn gwadu ymddygiad amhriodol ar ôl i'w gyhoeddwr ei ollwng
Mae'r awdur plant poblogaidd a'r digrifwr David Walliams wedi gwadu honiadau o ymddygiad amhriodol ar ôl cael ei ollwng gan ei gyhoeddwr HarperCollins UK.
Dywedodd llefarydd ar ran HarperCollins eu bod wedi penderfynu peidio â rhyddhau unrhyw deitlau newydd gan Walliams "ar ôl ystyriaeth ofalus, a than arweiniad eu Prif Weithredwr newydd".
Dywedodd y Telegraph bod hyn yn dilyn ymchwiliad allanol i honiadau o ymddygiad amhriodol tuag at fenywod ifanc. Ni chadarnhaodd HarperCollins y rhesymau dros eu penderfyniad.
Fe ddywedodd llefarydd ar ran Walliams nad oedd erioed wedi "cael gwybod am unrhyw honiadau a godwyd yn ei erbyn" gan ei gyhoeddwr.
"Nid oedd yn rhan o unrhyw ymchwiliad nac wedi cael unrhyw gyfle i ateb cwestiynau. Mae David yn gwadu'n gryf ei fod wedi ymddwyn yn amhriodol ac mae'n cymryd cyngor cyfreithiol," medd y llefarydd.
Dywedodd y cyhoeddwr eu bod yn cymryd lles gweithwyr "o ddifrif iawn" gyda "phrosesau ar waith ar gyfer adrodd ac ymchwilio i bryderon".
"Er mwyn parchu preifatrwydd unigolion nid ydym yn gwneud sylwadau ar faterion mewnol," meddai'r cwmni.
Mae Walliams yn un o awduron plant mwyaf llwyddiannus y DU, ar ôl gwerthu mwy na 60 miliwn o gopïau ledled y byd mewn 55 o ieithoedd gan gynnwys y Gymraeg.
Cyhoeddodd HarperCollins ei lyfr plant cyntaf, The Boy in the Dress, yn 2008.
