17 mlynedd o garchar garchar i ddyn ifanc am drywanu dyn tu allan i dafarn
Mae dyn ifanc wnaeth drywanu dyn arall y tu allan i dafarn yng Ngorseinon wedi cael ei ddedfrydu i 17 mlynedd yn y carchar.
Digwyddodd yr ymosodiad y tu allan i'r New Lodge yng Ngorseinon, Abertawe yn oriau mân 22 Mehefin 2025.
Yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener fe gafodd Kane Evans, oedd yn 20 oed adeg ei ddedfrydu i 22 mlynedd, a bydd yn treulio 17 mlynedd dan glo cyn treulio'r gweddill ar drwydded.
Roedd Evans eisoes wedi cweryla gyda phobl mewn car y tu allan i'r dafarn yn gynharach y noson honno.
Camodd Morgan Hopkins, y dioddefwr, i mewn i dawelu'r sefyllfa, gan berswadio Evans i adael.
Ond rhai oriau'n ddiweddarach, roedd Mr Hopkins y tu allan i'r dafarn pan ddaeth Evans ato gyda chyllell yn ei feddiant.
Defnyddiodd y gyllell honno i drywanu Mr Hopkins sawl gwaith.
Dioddefodd Morgan Hopkins anafiadau i'w freichiau a'i goluddyn, a dywedodd llawfeddygon ei fod "bron iawn â gwaedu allan".
Dywedodd Nia Sturgess o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Roedd hwn yn ymosodiad didrugaredd a chreulon a achosodd anafiadau ofnadwy.
“Dewisodd Kane Evans ddod â'r gyllell i'r dafarn, a'i defnyddio, ac mae bellach yn wynebu cyfiawnder am ei weithredoedd.
“Cyflwynwyd tystiolaeth gref gerbron Gwasanaeth Erlyn y Goron, a phlediodd y diffynnydd yn euog.
“Yn rhy aml o lawer, gall trais gyda chyllyll fod yn angheuol.
“Diolch byth, nid oedd hynny'n wir yn yr achos hwn, a gobeithiwn y bydd Mr Hopkins yn gwella'n llwyr.”
Llun: Morgan Hopkins
