'Teyrnged i Mam': Mab Annette Bryn Parri yn recordio fersiwn arbennig o gân er cof amdani
'Teyrnged i Mam': Mab Annette Bryn Parri yn recordio fersiwn arbennig o gân er cof amdani
Mae mab y diweddar Annette Bryn Parri wedi recordio fersiwn o gân arbennig yn ddiweddar gan ddefnyddio cyfeiliant a threfniant ei fam.
Bu farw Annette yn 62 oed ym mis Mai eleni yn yn dilyn cyfnod o waeledd.
Yn wreiddiol o bentref Deiniolen yng Ngwynedd, roedd Annette yn gerddor amryddawn, ac yn bianydd i artistiaid yn cynnwys Syr Bryn Terfel, Hogia’r Wyddfa, Ysgol Glanaethwy, Rebecca Evans a Rhys Meirion yn ystod ei gyrfa.
Roedd hefyd yn adnabyddus am gael traw perffaith (perfect pitch), yn ogystal â bod yn gerddor oedd yn gallu cyfeilio darnau hir a chymleth o gerddoriaeth o’i chof yn unig, heb fod yn ddibynnol ar gopi wrth chwarae.
Mae Bedwyr Parri, mab Annette, wedi recordio fersiwn o 'Dagrau', sef cyfieithiad o'r gân 'Tears in Heaven' gan Eric Clapton.
Yn y fersiwn, mae Bedwyr yn defnyddio recordiad o gyfeiliant ei fam, ac yn canu drosto.
"Teyrnged personol ydi o, fi i Mam ‘lly, ond be’ dwi’n lwcus ydi bod Mam yn cyfeilio i fi ar y deyrnged ‘lly," meddai wrth Newyddion S4C.
"Er bod hi reit fuan mewn ffordd, ‘swn i’n licio cael canu efo Mam eto wrth gwrs."
Ychwanegodd: "Mewn cyngherddau, o’n i’n canu hon fel unawd mewn ffordd yn Gymraeg neu’n Saesneg. Trefniant Mam ydi o, a dwi’n ffodus ofnadwy efo’r trefniant yma.
"Ma’r cyfeiliant yn ei hun yn ddigon i wrando ar, ond jyst cân ofnadwy o sbeshial, a fydda i’n gallu cadw hwnna am byth efo fi wan ‘lly er bod Mam ‘di cyfeilio i fi dros y blynyddoedd, ma’ hwn yn ryw fath o jyst teyrnged iddi hi mewn ffordd."
Dim ond unwaith y gwnaeth Bedwyr recordio'r gân, a hynny am ei fod yn awyddus iddi fod yn fersiwn mor onest â phosib.
"Mae o’n deyrnged onest, does ‘na’m wsnosa o recordio yna fo, mae o jyst yn ryw un noson mewn stiwdio, dydi o ddim yn berffaith ond be’ ydi o ydi recordiad onasd ag ia, dwi’n fodlon efo fo," meddai.
Mae Bedwyr yn awyddus i sicrhau fod Annette yn parhau yn fyw drwy ei cherddoriaeth.
"Ma’ ‘na lot yn gallu ’nabod Mam fel cyfeilyddes, i ni, o’dd hi’n mentora, o’dd hi’n cynhyrchu, o’dd hi’n gyfarwyddwr, cyfansoddi, o’dd hi lot fwy na jyst cyfeilio ‘lly," meddai.
"Yndi, ma’ hi ‘di bod yn gyfnod heriol, ond ma’ cerddoriaeth Mam yn mynd i fod efo ni am byth, efo fi, i’r plant, ma’ hwnna’n rwbath fedra ni gario efo ni am byth, a fedrith neb dynnu hwnna oddi wrtha chi mewn ffordd.
"Felly er bod bywyd yn anodd, ‘dan ni yn meddwl amdana fo, ‘dan ni reit lwcus bod petha fel YouTube neu newyddion neu Facebook, ma’ ‘na glipia o hyd.
"Chwerwfelys ydi’r gair dwi’n meddwl, gan bod Mam a Dad ddim yma efo ni, ond ma’n bwysig bo’ ni yn cofio hynna, a dyna be’ ma’r gân yn neud, dyna be’ ma’r ysgoloriaeth yn neud, a ‘dan ni’n gweithio ar hynna fel teulu ‘lly so ma’ hynna yn bwysig."
Roedd Bedwyr yn arfer bod yn aelod o grŵp Trio, sef triawd canu gydag Emyr Gibson a Steffan Lloyd Owen, ond nid oedd wedi canu yn unigol ers blynyddoedd.
"Do'ni heb ganu ar ben fy hun fel 'na ers blynyddoedd maith, dros 10 mlynedd, ag wrth gwrs, gorffan efo Trio, salwch fy Nhad, gathon ni gyfnod o beidio neud llawer o ddim byd felly o'n i mewn ffordd yn chwythu'r cobwebs ond o'dd o'n brofiad a hannar," meddai.
"Pwy a ŵyr, ella ar ôl 'Dolig wan, ella bod o'n wbath fydda i'n meddwl am. Er bo' Mam ddim yma, ma' hi 'di rhoi ryw fath o hyder i fi hefyd."
Fe gafodd cronfa sy’n cael ei rheoli gan Sefydliad Cymunedol Cymru ei sefydlu er cof am Annette i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o gerddorion Cymru, gyda'r nod o feithrin a chefnogi doniau cerddorol pobl ifanc ledled y wlad.
Fe fydd y gronfa yn darparu grantiau i helpu pobl ifanc i dderbyn gwersi, offerynnau cerdd a chyfleoedd hyfforddi.
"Be ydi hwn ydi jyst cyfle i offerynwyr Cymraeg, ond dio ddim yn goro bod mor fychan â hynna, ma'n gallu bod yn lot o betha' gwahanol, ond yn sicr, 'dan ni wedi sefydlu fo erbyn wan a be' dwi'n gobeithio ydi bod y recordiad dwi wedi ei neud yn gallu bod yn ffordd o hybu'r ysgoloriaeth," meddai Bedwyr,
Fe wnaeth Annette hefyd helpu i sefydlu côr Heddlu Gogledd Cymru, ac mae Bedwyr yn teimlo fod cerddoriaeth yn gallu bod yn therapi wrth wynebu heriau bywyd.
"O ran therapi, dyna be' o'dd y côr i fod, ryw fath o therapi i'r heddlu sydd efo bywyd reit heriol. O'dd Mam yn gallu helpu nhw, mi 'odd hi'n helpu lot ac yn gallu tynnu pwysau oddi ar yr aelodau," meddai.
"O'dd hi'n gallu rhoi gofod saff iddyn nhw yn yr ymarferion, a ma'n anodd rhoi pris ar hwnna. Dwi reit ffodus, ma' Hawys fy ngwraig i bellach yn cyfeilio i'r côr felly dwi'n teimlo bo' genna ni ffrindia a teulu sydd yn y côr hefyd felly 'dan ni'n un tîm mawr sy'n cydweithio ar lot o betha yn enw Mam."
