Cyn-gynghorydd yng Ngwynedd wedi gadael ei swydd 'cyn cwblhau proses ddisgyblu fewnol'

iwan huws.jpg

Fe wnaeth cyn-gynghorydd yng Ngwynedd adael ei swydd cyn i’w gyflogwr, Cyngor Ynys Môn, gwblhau proses ddisgyblu fewnol.

Roedd Iwan Huws yn gweithio fel Uwch Swyddog Morwrol i Gyngor Môn, ond mae bellach wedi gadael y swydd honno.

Roedd Mr Huws yn cynrychioli ward Bethel a'r Felinheli ar ran Plaid Cymru, cyn iddo ymddiswyddo o Gyngor Gwynedd ar 18 Medi.

Daeth tribiwnlys safonau i'r casgliad ddydd Mercher ei fod wedi torri côd ymddygiad i gynghorwyr, a’i wahardd rhag bod yn gynghorydd am dair blynedd.

Dywedodd tribiwnlys Panel Dyfarnu Cymru bod Iwan Huws wedi derbyn rhybudd amodol am drosedd o "Dwyll drwy gamddefnyddio swydd" drwy geisio twyllo ei gyflogwr wrth gamddefnyddio arian.

Roedd Iwan Huws yn gweithio fel Uwch Swyddog Morwrol i Gyngor Môn, ond mae bellach wedi gadael y swydd honno.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ynys Môn wrth Newyddion S4C: "Pan ddaeth y mater yma i'n sylw fel cyflogwr, fe ddilynwyd y broses ddisgyblu fewnol briodol ar gyfer swyddogion y Cyngor a chyfeirio'r mater at Heddlu Gogledd Cymru.

"Fodd bynnag, fe adawodd yr aelod o staff ein cyflogaeth cyn cwblhau'r broses ddisgyblu fewnol yma."

Gwahardd

Yn eu Hysbysiad o'r Penderfyniad yn dilyn y gwrandawiad, dywedodd Panel Dyfarnu Cymru fod mater Mr Huws wedi ei gyfeirio atyn nhw gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

"Yr honiad oedd iddo dorri côd Ymddygiad Cyngor Sir Gwynedd trwy dderbyn Rhybudd Amodol am drosedd o ‘Dwyll drwy gamddefnyddio swydd’ drwy geisio twyllo ei gyflogwr, wrth gamddefnyddio arian,” medden nhw.

Mae rhybudd amodol gan yr heddlu yn ei gwneud yn ofynnol i berson gydymffurfio ag amodau penodol, yn hytrach na wynebu erlyniad yn y llysoedd. 

Cyn y gellir rhoi'r rhybudd, rhaid i'r unigolyn gyfaddef y drosedd a chytuno i amodau'r rhybudd.

Ychwanegodd canfyddiadau Panel Dyfarnu Cymru: "Cafodd ei ystyried yn rhesymol fod rhybudd amodol a chamymddygiad yr Aelod wedi dod â'i swydd fel aelod â’i Gyngor Sir i anfri.

"Penderfynodd y Tribiwnlys Achos yn unfrydol y dylai’r cyn-Gynghorydd gael ei anghymhwyso rhag dal swydd gyhoeddus mewn unrhyw awdurdod perthnasol, fel y’i diffinnir yn adran 49(6) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, am gyfnod o dair blynedd o ddyddiad y dyfarniad."

Roedd y tribiwnlys wedi ystyried os oedd Mr Huws wedi ymddwyn yn groes i un cymal penodol yn y côd ymddygiad i gynghorwyr.

Mae’r cymal hwnnw yn nodi bod yn rhaid i gynghorydd “beidio ag ymddwyn mewn ffordd y gellid yn rhesymol ei hystyried yn un sy'n dwyn anfri ar eich swydd neu ar eich awdurdod.”

Fe fydd rhagor o fanylion yr achos yn cael eu cyhoeddi maes o law mewn Adroddiad Penderfyniad.

Mae gan Mr Huws yr hawl i geisio caniatâd yr Uchel Lys i apelio'n erbyn dyfarniad y tribiwnlys.

Image
Cyngor Mon
Pencadlys Cyngor Môn yn Llangefni

‘Preifatrwydd’

Mewn Cais Rhyddid Gwybodaeth i Gyngor Môn ym mis Hydref, gofynnodd Newyddion S4C i'r cyngor os oedd Mr Huws wedi ymddiswyddo, cael ei ddiswyddo neu adael yn wirfoddol.

Mewn ymateb, dywedodd y cyngor fod y wybodaeth yma "wedi’i heithrio o dan Adran 40 (2) o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, gan y gall ei rhyddhau arwain at adnabod unigolion, a fyddai yn ei dro yn effeithio ar eu hawl i breifatrwydd."

Gofynnodd Newyddion S4C i'r cyngor hefyd os oedd neu oes yna ymchwiliad mewnol gan Gyngor Môn i benderfyniadau a wnaeth Iwan Huws yn rhinwedd ei waith fel swyddog cyflogedig gyda’r cyngor cyn iddo adael yr awdurdod.

Ymateb Cyngor Môn oedd: "Ni all Gyngor Sir Ynys Môn gadarnhau na gwadu a yw’r wybodaeth hon yn cael ei chadw yn unol ag adran 40(5b)(a) Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000."

Gwrthododd y cyngor ddweud bryd hynny hefyd os oedd Iwan Huws wedi bod yn destun ymchwiliad troseddol tra'r oedd yn gweithio i Gyngor Môn, gan ailadrodd nad oedd modd iddynt "gadarnhau na gwadu a yw’r wybodaeth hon yn cael ei chadw" yn unol â'r Ddeddf.

Cefndir

Yn gyn-ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth Aberconwy yn 2011, roedd Iwan Huws yn gyn-Brif Weithredwr Parc Cenedlaethol Eryri am gyfnod.

Mae wedi gweithio i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn y gorffennol hefyd fel eu cyfarwyddwr dros Gymru.

Cafodd ei ethol yn gynghorydd sir yn 2022.

Nid yw’n eglur os oedd penderfyniad Mr Huws i ymddiswyddo fel cynghorydd yn gysylltiedig â’r ymchwiliad i'w ymddygiad gan y tribiwnlys.

Mae Newyddion S4C wedi ceisio cysylltu gyda Mr Huws am ymateb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.